Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi lansio rhaglen gwerth £1.4 biliwn sy’n bwriadu moderneiddio a thrawsnewid yr awyrgylch dysgu yn ysgolion Cymru.

Bydd 150 o ysgolion a cholegau yn elwa o’r buddsoddiad sydd am weld y Llywodraeth yn cydweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid addysg i ddarparu’r awyrgylch gorau ar gyfer y gymuned.

Mae’r buddsoddiad yn rhan o gam cyntaf Ysgolion 21ain Ganrif a fydd wedi cael ei weithredu yn llawn erbyn 2018-19.

Bydd y rhaglen yn cael ei lansio gan y Prif Weinidog a’r Gweinidog Addysg Huw Lewis yn Ysgol Gymunedol Aberdâr heddiw, sef un o’r ysgolion fydd yn derbyn cymorth ariannol o £15 miliwn. Y bwriad yw creu chweched dosbarth mwy gyda bron i 300 o fyfyrwyr gydag ystod eang o bynciau i’w hastudio.

‘Moderneiddio’

Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae’r awyrgylch dysgu yn chwarae rôl bwysig ym mhrofiad addysgiadol y myfyrwyr. Rydym eisiau moderneiddio ystafelloedd dosbarth Cymru fel bod myfyrwyr yn cael eu hysbrydoli i arbrofi, datblygu sgiliau a dysgu.

“Bydd £1.4 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn y rhaglen yn ystod y bum mlynedd nesaf a fydd yn ailwampio 150 o ysgolion a cholegau fel bod gan y myfyrwyr a’r athrawon y dechnoleg fodern maen nhw’n ei haeddu.”

Ychwanegodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis: “Rydym eisiau i fyfyrwyr fod a ffydd yn be allen nhw ei gyflawni, waeth beth yw eu cefndir.

“Bwriad y rhaglen yw creu’r awyrgylch cywir i fyfyrwyr a chynnig y dewis gorau o dechnoleg fel eu bod yn mwynhau dysgu.

“Rwy’n gobeithio bydd y rhaglen yn gwella profiadau dysgu’r myfyrwyr ac yn codi safonau ledled Cymru.”

Aberdâr

Dywedodd y cynghorydd Eudine Hanagan, sy’n aelod cabinet dros Addysg yn Rhondda Cynon Taf:

“Rydym yn falch iawn bod ein datblygiad addysg a chymunedol yn Aberdâr wedi cael ei ddewis gan y Llywodraeth i gynnal lansiad y rhaglen.

“Mae’r prosiect cyffrous yma – sy’n datblygu yn gyflym iawn – yn esiampl wych o beth all y rhaglen ei olygu.