Llys y Goron Caernarfon
Mae tri dyn o Ynys Môn wedi cael eu dedfrydu i garchar yn dilyn ymosodiadau anweddus hanesyddol ar ferch ifanc.
Yn Llys y Goron Caernarfon heddiw, clywodd y rheithgor fod Owen Hefin Williams, 71, Robert Hughes, 58, o Walchmai a William David Darbyshire, 52, o Skegness ond yn wreiddiol o Walchmai, wedi “cymryd mantais” ac wedi cam-drin y ferch yn rhywiol.
Roedd y ferch, sydd bellach yn ei 40au, yn wyth oed ar y pryd.
Cafodd Owen Hefin Williams ei ddedfrydu i chwe blynedd a hanner dan glo am chwe achos o ymosod yn anweddus. Cafodd Robert Hughes chwe blynedd o garchar a bydd William Darbyshire yn treulio pedair blynedd dan glo.
Bydd y tri dyn yn cael eu rhoi ar y gofrestr rhyw am weddill eu hoes.