Ysbyty Glan Clwyd
Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi cadarnhau mai Ysbyty Glan Clwyd fydd lleoliad uned arbenigol i fabis newydd yn y Gogledd.

Roedd ’na bryder y byddai gwasanaeth arbenigol ar gyfer babis newydd yn cael ei symud o ysbytai Glan Clwyd a Wrecsam Maelor i Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri yn Lloegr  fel rhan o gynlluniau ad-drefnu’r gwasanaethau iechyd.

Daw’r cyhoeddiad heddiw yn dilyn argymhelliad gan banel annibynnol.

Rhai o’r meini prawf a gafodd eu hystyried wrth ddewis y safle gorau oedd diogelwch, profiadau cleifion, hyfforddiant ac addysg i’r staff.

Ysbyty Maelor Wrecsam oedd y dewis arall ond roedd pryderon ynglŷn â mynediad i’r ysbyty i’r rheini sy’n byw yng ngorllewin Cymru.

Heriau

Mae’r Prif Weinidog yn dweud fod heriau a risgiau wedi cael eu nodi yn adroddiad y panel annibynnol, a bod angen i’r bwrdd iechyd fynd i’r afael â’r rhain cyn datblygu’r ganolfan yn Ysbyty Glan Clwyd.

“Rwy’n cydnabod yr heriau a’r risgiau a nododd y panel yn ei adroddiad ond rwy’n credu bod cyngor y panel yn gadarn ac yn gytbwys , ac yn bwysicach na dim mae’n rhoi sylw i les gorau’r teuluoedd sy’n byw yn y Gogledd.

“Yn y bôn, nod y datblygiad hwn yw darparu’r safonau gofal a’r canlyniadau clinigol gorau posibl i famau a’u babanod ar draws y Gogledd i gyd.

“Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn ni helpu i wella canlyniadau ar gyfer ein babanod a’n plant mwyaf sâl.”

Roedd y panel annibynnol  dan gadeiryddiaeth Sonia Mills, cyn-brif weithredwr yn y GIG a hefyd yn cynnwys aelodau o’r Coleg Brenhinol Paediatreg a Gofal Plant a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Pryder am lefelau staffio

Mae’r gwrthbleidiau wedi galw am sicrwydd y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gallu ymdopi hefo lefelau staffio:

“Mae’r bwrdd iechyd wedi methu darparu digon o staff mewn unedau babanod newydd anedig yn y gorffennol ac ni all methiannau fel hyn barhau,” meddai Aled Roberts o’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae penderfynu ar leoliad y ganolfan yn un peth, ond mae’n hanfodol ein bod ni rŵan yn gweld tystiolaeth fod y broblem staffio am gael ei datrys.

“Rhaid cyrraedd y nod o ddatblygu canolfan arbenigol o safon uchel fel bod y babanod mwyaf bregus yng Ngogledd Cymru yn gallu cael eu trin.