Mae un person wedi marw ac wyth wedi’u hanafu’n ddifrifol mewn damwain bws yng Nghernyw.

Roedd y bws wedi taro yn erbyn gwrych ar yr A387 yn Morval ger Looe yng Nghernyw tua 1 o’r gloch y prynhawn ma, yn ôl heddlu Dyfnaint a Chernyw.

Mae’n debyg bod y bws yn cludo teithwyr dros 60 oed.

Yn ogystal â’r person fu farw, cafodd wyth eu hanafu’n ddifrifol a chafodd 4 o bobl eraill driniaeth ar gyfer man anafiadau mewn neuadd bentref gerllaw.

Cafodd tri ambiwlans awyr eu hanfon  i’r safle a chafodd dau o’r teithwyr eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Derriford yn Plymouth gydag anafiadau difrifol. Mae’r wyth gafodd eu hanafu’n ddifrifol i gyd wedi cael eu cludo i Ysbyty Derriford.

Roedd y bws yn teithio tuag at Looe o gyfeiriad Plymouth pan ddigwyddodd y ddamwain.