Y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford
Mae’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi gorchymyn y dylid cynnal adolygiad brys o’r gofal sy’n cael ei roi i gleifion oedrannus yn ysbytai Cymru.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil pryderon am ansawdd isel y gofal nyrsio yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Castell Nedd Port Talbot wedi marwolaeth claf.

Roedd adroddiad gan yr Athro June Andrews a Mark Butler wedi dweud fod rhai agweddau o ofal pobol hŷn a bregus yn gwbl annerbyniol gan wneud 18 o argymhellion i fynd i’r afael a’r problemau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi ymddiheuro “yn ddiffuant” i gleifion a theuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan ansawdd isel y gofal.

O ganlyniad i’r adroddiad, mae’r Gweinidog Iechyd wedi gorchymyn bod angen adolygiad brys o  safon y gofal yng Nghymru a bod cyfres o archwiliadau dirybudd yn cael eu cynnal gan dîm o arbenigwyr.

Archwiliadau

Yn ôl Mark Drakeford, bydd pob un o fyrddau iechyd Cymru yn cael pedair wythnos i ystyried argymhellion yr adroddiad a bydd disgwyl iddyn nhw gynnal archwiliadau ar unwaith i ofal cleifion.

“Rwyf wedi cwrdd â chadeirydd a phrif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac wedi dweud yn glir fy mod i’n disgwyl i welliannau gael eu gwneud ar unwaith i’r gofal sy’n cael ei roi i gleifion yn y ddau ysbyty,” meddai.

Ychwanegodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, yr Athro Andrew Davies:

“Rydym yn derbyn ein bod wedi gadael rhai o’n cleifion a’u teuluoedd i lawr, ac yn ymddiheuro yn ddiffuant am y poendod mae hynny wedi ei achosi.

“Ond rwyf yn credu ei fod yn mynd i’n helpu i wella ansawdd y gofal. Mae’r adroddiad wedi gosod heriau i ni i’w cyflawni mewn amser byr ac fe fyddwn ni’n gwneud ein gorau i’w cyflawni.”