Y wifren zip ym Methesda
Mae elusen blant yn chwilio am bobl o ogledd Cymru i godi arian trwy blymio 1,750 metr i lawr y wifren zip fwyaf yn Ewrop.
Bydd her Naid Ffydd yn gweld y rhai sy’n cymryd rhan yn cyrraedd cyflymder o hyd at 115 milltir yr awr dros Chwarel y Penrhyn ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Cynhelir y digwyddiad yn y Byd Zip ym Methesda ar 14 Mehefin .
Bydd yr arian sy’n cael ei gasglu yn helpu elusen Gweithredu dros Blant sy’n rhoi cymorth i blant sy’n agored i niwed, a’u teuluoedd.
Mae’r elusen yn rhoi cymorth i ofalwyr ifanc ac yn trefnu gwyliau byr i blant a phobl ifanc anabl.
Meddai Abigail Henderson o Gweithredu Dros Blant yng Nghymru: “Yn dilyn y digwyddiad Gŵyl Dewi pan wnaethon ni gasglu dros £9,000, rydym yn rhoi cyfle arall i geiswyr antur ymgymryd â’r her anhygoel hon.”
Rhaid i gyfranogwyr dalu ffi mynediad o £45 a gofynnir iddynt godi o leiaf £100 mewn nawdd.
Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch â Abigail Henderson ar 01492 514032 neu anfonwch e-bost at events.wales@actionforchildren.org.uk