Malcolm Fyfield
Clywodd Llys y Goron Abertawe heddiw bod rheolwr pwll glo sydd wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad yn cael ei ystyried fel “Alex Ferguson y byd mwyngloddio.”
Mae Malcolm Fyfield wedi’i gyhuddo o ddynladdiad pedwar o lowyr yng nglofa’r Gleision ym Mhontardawe.
Mae Malcolm Fyfield wedi pledio’n ddieuog i bedwar cyhuddiad o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol, ac mae’r cwmni MNS Mining wedi gwadu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.
Bu farw Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, Garry Jenkins, 39, a David Powell, 50, ar ôl i alwyni o ddŵr lifo i mewn i’r pwll ar 15 Medi, 2011.
Llwyddodd Malcolm Fyfield i ddianc.
Clywodd y llys heddiw sut yr oedd y rheolwr 58 mlwydd oed yn uchel ei barch o fewn y diwydiant.
Dywedodd Tony Forster, cyn arolygydd y lofa ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, a oedd hefyd yn un o’r rhai fu’n arwain yr ymchwiliad yn dilyn y trychineb, ei fod yn credu bod MNS Mining wedi “taro’r jacpot” pan wnaethon nhw lwyddo i benodi Malcolm Fyfield yn ystod yr haf 2011. Dywedodd bod Fyfield yn cael ei ystyried fel “Alex Ferguson y byd mwyngloddio.”
Ychwanegodd sut oedd dulliau Malcolm Fyfield o reoli glofa Nant Hir yng Nghwm Nedd “o safon uchel” a dywedodd fod y pwll bach yn cael ei reoli’n “dda iawn” gan y diffynnydd.
Ond wrth gael ei groesholi gan Elwen Evans QC, fe gyfaddefodd Tony Forster nad oedd wedi son mewn tystiolaeth flaenorol bod yna wrthdaro am ei fod yn adnabod Malcolm Fyfield yn dda a rhai o’r glowyr fu farw.
Mae’r achos yn parhau.