Claudia Lawrence
Mae Heddlu Gogledd Swydd Efrog wedi arestio dyn 59 oed ar amheuaeth o lofruddio’r gogyddes Claudia Lawrence, sydd wedi bod ar goll ers pum mlynedd.

Fe ddiflannodd Claudia Lawrence, 35, o’i chartref yn ardal Heworth, Caerefrog ym mis Mawrth 2009 wrth iddi deithio i’w gwaith ym Mhrifysgol Caerefrog.  Mae’r heddlu’n  credu ei bod hi wedi cael ei llofruddio ond maen nhw’n dweud nad ydyn nhw wedi dod o hyd i’w chorff.

Cafodd  adolygiad o’r ymchwiliad i’w diflaniad ei lansio ar raglen Crimewatch y llynedd, ar ôl i wybodaeth a thystiolaeth DNA newydd ddod i law.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod ymchwiliadau a phrofion fforensig yn cael eu cynnal a bod disgwyl iddyn nhw barhau am ychydig ddyddiau.

Mae car hefyd yn cael ei archwilio ac mae’r heddlu yn dweud y gallen nhw arestio mwy o bobol mewn cysylltiad â’r ymchwiliad.

Mae tad Claudia Lawrence wedi bod yn ymgyrchu ers pum mlynedd i ddod o hyd i’w ferch.