Llys y Goron Yr Wyddgrug
Mae cyn-arweinydd clwb Sgowtiaid o Sir y Fflint wedi cael ei ddedfrydu i 12 mlynedd yn y carchar ar ôl cyfaddef i 26 o achosion o droseddau rhyw yn erbyn bechgyn yn y 70au.

Fe fydd Martyn Tucker, sy’n 67 ac yn dod o Gaer, hefyd yn cael ei roi ar y gofrestr rhyw am weddill ei oes a’i wahardd rhag gweithio gyda phlant.

Roedd eisoes wedi cyfaddef i bum achos o ymosodiadau rhyw difrifol, 12 achos o ymosodiad anweddus a naw achos o anwedduster gyda phlentyn.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod rhai o’r troseddau wedi digwydd yng ngogledd Cymru ac eraill yng ngorllewin Mercia, Sir Caer a Bryste.

Digwyddodd y troseddau rhwng 1968 a 1978 yn erbyn pump o fechgyn yn eu harddegau.