Petai cwmni fferyllol Pfizer yn prynu AstraZeneca, fe all hynny oedi cynhyrchu meddyginiaethau sy’n achub bywydau, meddai rheolwr AstraZeneca wrth ASau heddiw.
Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Pascal Soriot, y byddai’r gwerthiant yn tynnu sylw oddi ar ei flaenoriaethau gwyddonol.
Dywed Pfizer y bydd uno’r ddau gwmni yn creu “canolfan wyddonol sylweddol yn y DU” ond byddai hefyd yn torri cyllideb ymchwil y ddau gwmni sydd, yn ôl amcangyfrif, yn £7 biliwn rhyngddynt.
Dywedodd Pascal Soriot y byddai ail-gartrefu’r cwmni newydd yn y DU – er y byddai’r pencadlys yn aros yn Efrog Newydd – yn achosi “dadlau sylweddol” ac yn debygol o arwain at oedi mewn cynhyrchu cyffuriau.
Daeth sylwadau Pascal Soriot wrth i Pfizer roi mwy o bwysau ar Astra trwy amlinellu ei gynigion yn uniongyrchol i gyfranddalwyr y cwmni yn y DU.
Mae AstraZeneca eisoes wedi gwrthod cynnig o £63 biliwn gan Pfizer am y cwmni gan ddweud nad oedd y cynnig yn ddigonol.
Mae prif weithredwr Pfizer wedi cael ei holi gan Bwyllgor Seneddol o ASau heddiw.