Ysbyty Gwynedd, Bangor
Mae Aelod Cynulliad wedi mynegi pryder am y sefyllfa yn uned iechyd meddwl Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Yn ol adroddiadau, mae staff yn uned iechyd meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd wedi lleisio pryder am y ffordd mae’r ward yn cael ei rheoli.

Ym mis Rhagfyr y llynedd, cafwyd arolygiad dirybudd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru oedd yn nodi bod moral staff ward Hergest yn isel, bod pryderon am ddiogelwch, pryderon am gymysgu cleifion oedrannus a bregus gyda rhai sydd â salwch meddwl, a bod angen wardiau ar wahân i ddynion a merched.

Mae dau uwch-seiciatrydd sy’n gweithio yno wedi dweud wrth y BBC  bod y problemau wedi dod i’r amlwg pan gafodd dau nyrs eu hanfon adref o’u gwaith heb esboniad.

Er bod y nyrsys wedi dychwelyd i’r gwaith ar ôl tua chwe wythnos, ar ôl i fwy na 40 o’u cydweithwyr gwyno i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am y mater, meddai’r uwch-seiciatryddion eu bod nhw’n dal yn aros am esboniad.

Meddai Alun Ffred Jones, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon, ar y Post Cynta bore ma bod angen sicrhau bod cleifion yn ddiogel a bod y gwasanaeth yn gweithio’n effeithiol oherwydd bod yr uned yn gofalu am  “bobl fregus iawn yn eu bywyd.”

Dywedodd nad  oedd o wedi derbyn cwyn uniongyrchol am yr ofal mae’r uned yn ei ddarparu ond ei fod  wedi derbyn cwynion bod diffyg staff sy’n gweithio yn y gymuned.

“Yn sicr, mae’r gwasanaeth dan straen yn fanno,” meddai.

‘Gwrando ar staff’

Dywedodd yr Athro Matthew Makin, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Anwiredd yw dweud nad yw’r Bwrdd Iechyd yn gwrando ar staff sydd â phryderon. Rydym wedi gwrando ar staff, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Bydd unrhyw bryderon sy’n cael eu mynegi yn cael eu hymchwilio.

“Mae’r Bwrdd Iechyd wedi derbyn y darganfyddiadau yn adroddiadau Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac rydym wedi ymrwymo i wneud y newidiadau angenrheidiol i ddarparu gwell gofal.

“Rydym yn annog yr holl staff yn yr Uned i fod yn rhan o’r newidiadau sydd raid eu gwneud i fodloni safonau a gwella gofal. Mae mwyafrif y staff wedi ymateb yn bositif ac maen nhw’n bwrw ymlaen â gwelliannau gwirioneddol.”