Mae disgwyl i brif weithredwr Pfizer gael ei holi gan Aelodau Seneddol heddiw, wrth i’r cwmni fferyllol ddatgan ei ymrwymiad i swyddi ac ymchwil yn y DU fel rhan o gytundeb £63 biliwn i brynu AstraZeneca.

Mewn datganiad ysgrifenedig cyn ymddangosiad Ian Read gerbron y Pwyllgor Busnes a Sgiliau, dywed Pfizer y bydd uno’r ddau gwmni yn creu “canolfan wyddonol sylweddol yn y DU.”

Ond dywed rhai sy’n gwrthwynebu’r cynllun bod datganiadau Ian Read yn ei lythyr at y Prif Weinidog yn “ddiwerth” ac maen nhw’n galw ar weinidogion i atal unrhyw gytundeb.