Ysbyty Tywysoges Cymru
Mae saith nyrs arall wedi cael eu gwahardd o’u gwaith fel rhan o ymchwiliad yr heddlu i anghysondebau honedig mewn cofnodion yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae 10 nyrs i gyd wedi cael eu gwahardd o’r ysbyty erbyn hyn.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg mewn datganiad bod tair nyrs wedi cael eu harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth yn dilyn ymchwiliad y llynedd a bod y saith nyrs arall wedi cael eu gwahardd o’r gwaith ar amheuaeth o ffugio cofnodion.
Mae’r deg nyrs i gyd wedi cael eu gwahardd o’u gwaith, meddai llefarydd ar ran yr ysbyty.
Dywedodd y datganiad: “Yn gynnar yn 2013, roedd systemau mewnol Ysbyty Tywysoges Cymru wedi nodi anghysondebau honedig mewn cofnodion rhai o’r nyrsys.
“Roedd y Bwrdd Iechyd wedi hysbysu’r heddlu, ac yna cafodd ymchwiliad troseddol (sy’n parhau) ei lansio. O ganlyniad, cafodd tair nyrs eu harestio a’u ryddhau ar fechnïaeth ac mae saith arall wedi’u gwahardd ar amheuaeth o ffugio cofnodion.
“Mae’r ymchwiliad yn parhau a byddai’n amhriodol i wneud sylw pellach ar hyn o bryd.”
Mae Heddlu De Cymru wedi gwrthod gwneud sylw am y mater.