(Llun o wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru)
Mae ymladdwyr tân ar streic am y trydydd diwrnod yn olynol yng Nghymru a Lloegr wrth i’w anghydfod rhyngddyn nhw a’r llywodraeth ynglŷn â phensiynau barhau.
Dywed Undeb y Brigadau Tân, yr FBU, fod cefnogaeth gadarn wedi bod i’r streiciau a gychwynnodd ddydd Gwener.
Ar ôl pum awr o streic ddydd Gwener, a 12 awr ddoe, fe fydd yr ymladdwyr tân allan eto rhwng 10am a 3pm heddiw.
Roedd gwasanaethau tân wedi annog y cyhoedd i gymryd gofal arbennig yn ystod y gweithredu diwydiannol, ond does dim adroddiadau fod unrhyw danau mawr wedi digwydd hyd yma.
Mae’r FBU yn gwrthwynebu newidiadau i drefniadau pensiwn eu haelodau, a fydd yn golygu eu bod nhw’n gorfod gwneud cyfraniadau uwch, gweithio’n hŷn ac mewn perygl o golli eu gwaith os byddan nhw’n methu profion ffitrwydd wrth fynd yn hŷn.
Dadl y Llywodraeth yw fod ymladdwyr tân yn cael y fargen orau o gymharu â holl weithwyr eraill y sector cyhoeddus, ac na fydd y newidiadau’n effeithio dim ar dri chwarter aelodau’r undeb.