Mae Undeb y Prifathrawon, NAHT, wedi galw am fwy o reolaeth ar lywodraethwyr ysgolion.
Yn eu cynhadledd flynyddol yn Birmingham, cyfeiriodd cynrychiolydd Gorllewin Canolbarth Lloegr at y pryderon fod eithafwyr Mwslimaidd yn cynllwynio i ennill rheolaeth ar ysgolion yn y ddinas.
“Mae angen deddfwriaeth a chytundebau cenedlaethol y bydd yn rhaid i bob llywodraethwr gadw atynt,” meddai’r cynrychiolydd, Alison Marshall.
Ychwanegodd fod problem hefyd o lywodraethwyr yn ymyrryd gormod yng ngwaith prifathrawon o ddydd i ddydd.
“Mae angen cosbau llymach fel y gellir cael gwared ar y rheini sy’n camddefnyddio’u hawdurdod, pwy bynnag ydyn nhw, a waeth beth fo’u statws,” meddai.
“Mae angen hyfforddiant effeithiol ar bob llywodraethwr – ac os nad ydyn nhw’n dilyn yr hyfforddiant yma, ddylen nhw ddim cael bod yn llywodraethwyr.”
Fe wnaeth yr NAHT basio cynnig yn galw am gontract cenedlaethol i lywodraethwyr er mwyn sicrhau bod ysgolion yn cael eu rhedeg yn broffesiynol.