Baedd gwyllt
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod camerâu mewn coedwig ger Pen-y-Bont ar Ogwr i geisio dod o hyd i 21 o faeddod gwyllt sy’n rhydd yn yr ardal.

Cafodd chwech o bobol eu harestio ddoe ar amheuaeth o ryddhau’r baeddod gwyllt yn fwriadol yn  ystod lladrad ar fferm ym Maesteg.

Dywedodd David Jam, o Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae Heddlu De Cymru wedi gofyn inni gynorthwyo â’r chwilio am y baeddod gwyllt sydd wedi dianc o’r fferm i’r goedwig gyfagos, a reolir gennym ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae tîm o swyddogion yn chwilio’r goedwig am olion y baeddod, ond oherwydd eu natur ofnus a nosol, efallai y bydd yn anodd canfod yr anifeiliaid yn ystod oriau’r dydd.

“O gofio hynny, awn ati i chwilio yn ystod y nos, hefyd, adeg y mae baeddod, yn gyffredinol, fwyaf effro, a gosodwn gamerâu yn y goedwig.

“Os canfyddwn olion y baeddod ar ein tir, gweithiwn â pherchennog y fferm er mwyn ceisio dal yr anifeiliaid.”

Er nad yw’r anifeiliaid yn fygythiad difrifol i’r cyhoedd, fe allen nhw redeg at unrhyw un sy’n mynd yn rhy agos atyn nhw ac fe allen nhw ymosod ar dda byw hefyd.

Mae Heddlu De Cymru’n annog aelodau o’r cyhoedd sy’n gweld un o’r baeddod i beidio mynd yn agos atyn nhw ac i ffonio 101 ar frys.