Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau nad ydyn nhw bellach yn chwilio am unrhyw un yn dilyn honiadau o ymosodiad rhywiol honedig ar ferch 13 oed.
Roedd yr heddlu yn chwilio am ddyn canol oed ar ôl honiadau fod rhywun wedi ymosod ar y ferch ifanc ym Mharc Y Cocyd neithiwr.
Bu’r heddlu yn cynnal ymholiadau o ddrws i ddrws yn ogystal ag edrych ar luniau CCTV a chynnal profion fforensig yn y parc.
Maen nhw rŵan yn dweud eu bod wedi cadarnhau na chafodd unrhyw drosedd ei chyflawni.