Staff Ty Asha yn y gwobrau cyri gyda'r gyflwynwraig Sian Lloyd
Bwyty Indiaidd o Lanrwst sydd wedi dod i’r brig yng nghystadleuaeth Tŷ Bwyta Cyri Cymru eleni.
Ac fe aeth y wobr am y cogydd cyri gorau i Stephen Gomes o fwyty Moksh yng Nghaerdydd.
Mae dros 350 o fwytai Indiaidd yng Nghymru ac fe wnaeth 13,000 o bobol bleidleisio am eu hoff fwyty cyri, yn ôl trefnwyr y Gwobrau Cyri Cymreig.
Dyma’r ail dro i Dŷ Asha Balti gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth, ar ôl cael eu henwi’r tŷ bwyta cyri gorau yng Ngogledd Cymru yn 2008 hefyd.
Cafodd y noson wobrwyo ei chynnal yng Nghaerdydd neithiwr gyda’r gyflwynwraig dywydd Sian Lloyd yn cyflwyno’r gwobrau.
Cig oen Cymreig
Yn ôl trefnydd y gystadleuaeth, Niaz Taj, mae cyrraedd y rownd derfynol yn “lwyddiant anferth.”
“Roedd y beirniaid yn hoff o sut roedd Tŷ Asha Balti yn paratoi ac yn coginio eu prydau Cig Oen Cymreig, gan gyfuno blas melys y cig hefo sbeis traddodiadol Indiaidd,” meddai Niaz Taj.
“Roedd hi hefyd yn dda gweld sut mae llwyddiant tŷ bwyta yn gallu effeithio ar yr economi ar ardal ehangach. Roedd hi’n teimlo fel bod cymuned Llanrwst yn rhan o’r bwyty – pawb o’r ffermwyr lleol i fusnesau cyfagos, a’r cwsmeriaid hapus.”
Y Cogydd Cyri Gorau
Fe aeth y wobr am y cogydd cyri gorau i Stephen Gomes o fwyty Moksh yng Nghaerdydd.
“Mae Stephen Gomes yn cynrychioli’r lefel uchaf o goginio,” meddai Niaz Taj.
“Roeddem yn teimlo y buasai ei sgiliau yn gallu gwella bob math o goginio ond ar hyn o bryd, mae o’n canolbwyntio ar godi dulliau coginio Indiaidd i lefel newydd.
“Mae hi’n gyffrous cael bod yn rhan o’i siwrne.”