Mae’r Bathdy Brenhinol wedi cyhoeddi cynlluniau i agor ei ddrysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf erioed.

Daeth cadarnhad heddiw o’u bwriad i agor canolfan ymwelwyr gwerth £7.7 miliwn yn eu pencadlys yn Llantrisant.

Mae disgwyl i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau erbyn y flwyddyn nesaf.

Bydd gan ymwelwyr gyfle i fynd ar daith o amgylch y safle i weld sut mae darnau arian yn cael eu cynhyrchu, gan roi’r cyfle hefyd i greu eu darnau arian eu hunain.

Arian i bob cwr o’r byd

Mae’r Bathdy’n creu darnau arian ar gyfer oddeutu 60 o wledydd ac mae’n gobeithio y bydd y ganolfan yn denu 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Dywedodd llefarydd ar ran y Bathdy Brenhinol y byddai’r ganolfan yn diogelu 147 o swyddi ac yn creu swyddi o’r newydd.

“Rydyn ni’n derbyn nifer fawr o geisiadau gan aelodau’r cyhoedd bob blwyddyn i ddod ar ymweliad ac rydyn ni wedi bod yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gael canolfan ymwelwyr ers cryn amser.

“Felly mae’n bleser mawr gallu cyhoeddi y bydd hyn yn mynd yn ei flaen ac y bydd pobol yn gallu gweld gwaith un o drysorau cenedlaethol Prydain.”