Mae’r ffordd y mae arian Ewropeaidd yn cael ei weinyddu yng Nghymru wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwetha’, meddai Swyddfa Archwilio Cymru.
Ond mae adorddiad y Swyddfa’n dweud ei bod yn rhy gynnar o hyd i ddweud faint o wahaniaeth y byddan nhw’n ei wneud i’r economi yn y pen draw.
Ac, er fod y rhaglenni’n llwyddo i gyrraedd targedi dosbarthu arian yr Undeb Ewropeaidd, mae gwario ar brosiectau unigol yn arafach na’r disgwyl.
Ymhlith cwynion eraill, mae:
- Methiant i gyrraedd targedi o ran yr amgylchedd a chyfle cyfartal
- Beirniadaeth gan rai am arafwch y broses o roi grantiau a’r holl waith gweinyddol i’w cael.
Y cefndir
Roedd y Swyddfa Archwilio’n ystyried y cynllun grantiau rhwng 2007 a 2013 – yr arian datblygu sy’n mynd i rannau lleia’ llewyrchus Cymru, yn y Cymoedd a’r Gorllewin.
Roedd y grantiau uniongyrchol werth £1.87 biliwn, gyda’r disgwyl y bydden nhw’n arwain at gyfanswm buddsoddi o £3.2 biliwn.
Fe fydd y gwario, sy’n cael ei arolygu gan swyddfa arian Ewropeaidd WEFO, yn parhau tan 2015 ac mae gwleidyddion pro-Ewrop yn dadlau ei fod yn dangos pwysigrwydd aros yn yr Undeb.
“Mae’r buddsoddiad yma’n hanfodol i economi Cymru a chreu rhagor o swyddi,” meddai Alec Dauncey, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholiadau Ewropeaidd yng Nghymru.
“Eto mae UKIP a’r Ceidwadwyr yn barod i fygwth y swyddi hyn gyda’u hobsesiwn am ein tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd.”