Dim ond 13% o’r rheiny a bleidleisiodd ar bôl piniwn golwg360 fyddai’n ystyried pleidleisio dros UKIP yn yr etholiadau Ewropeaidd ymhen mis.

Fe fyddwn ni’n mynd ati i fwrw’n pleidlais dros ein Haelodau Seneddol Ewropeaidd newydd ar 22 Mai, ac mae disgwyl i UKIP wneud yn well nag erioed ar draws Prydain.

Mae’r blaid wedi denu cryn dipyn o sylw yn ddiweddar am eu gwrthwynebiad i’r Undeb Ewropeaidd a mewnfudwyr – er bod rhai wedi’u cyhuddo o hiliaeth.

Dywedodd 85% o bobl ar bôl piniwn golwg360 na fydden nhw’n ystyried pleidleisio dros blaid Nigel Farage fis nesaf – gyda llai na 2% ddim yn siŵr.

Mae’r polau piniwn diweddaraf yn awgrymu ei bod hi’n agos iawn rhwng UKIP a Llafur i weld pwy fydd yn ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau ar draws Prydain ym mis Mai, gyda’r ddau yn agos i 30%.

Ond mae cefnogaeth UKIP yn tueddu i fod ychydig yn wannach yng Nghymru nac mewn ardaloedd eraill ym Mhrydain – er bod gan y blaid un ASE allan o bedwar Cymreig.

Dadansoddiad Iolo Cheung

Mae canlyniad y pôl yn un eithaf unfrydol ar yr olwg gyntaf – does dim llawer o awydd gan bobl Cymru i bleidleisio dros UKIP fis nesaf.

Ond ffordd arall o edrych ar y rhifau yw bod 13% o bobl wnaeth ymateb i’r pôl YN ystyried pleidleisio drostynt, ac mae hwnnw’n ffigwr sylweddol i blaid sydd â bron dim aelodau etholedig yng Nghymru.

Iawn, dydi o ddim mor uchel ag y mae eu cefnogaeth yn ymddangos yng ngweddill Prydain, ac mae’r ffigwr yna ddim ond yn dangos faint sydd yn ystyried rhoi’u pleidlais i Farage, nid faint sy’n sicr o wneud.

Ond mae’n dangos fod neges UKIP yn taro tant ymysg rhai yng Nghymru, boed hynny oherwydd eu bod yn cydweld â’u polisïau neu am fod pobl eisiau dangos dau fys i’r pleidiau presennol.

Cawn weld ymhen mis a fydd UKIP wedi llwyddo i gynyddu’u cyfradd o’r bleidlais yng Nghymru, a dal gafael ar ei Haelod Seneddol Ewropeaidd.

Ond rhyw amau ydw i nad yw darllenwyr golwg360 o reidrwydd ymysg y rhai mwyaf tebygol o bleidleisio dros UKIP – ac felly peidiwch â synnu os yw’r gefnogaeth iddynt ar draws Cymru yn fwy na 13% ym mis Mai.

Canlyniadau

A fyddech chi’n ystyried pleidleisio dros UKIP yn etholiadau Ewrop?

Buaswn – 13.11%

Na fuaswn – 85.25%

Ddim yn siŵr – 1.64%

Nifer: 122