Protest yn erbyn ffracio yn y Fro
Mae’r Gweinidog Ynni yn Llywodraeth Prydain wedi cadarnhau eu bod nhw’n ystyried newid y gyfraith i’w gwneud hi’n haws i gwmnïau ffracio.
Yn ôl Ed Davey, fe fyddan nhw’n ystyried newid y Ddeddf Tresmasu i roi’r hawl awtomatig i gwmnïau allu cloddio o dan dir preifat.
Eisoes, mae cwmnïau’n gwneud ceisiadau i ddefnyddio ffracio i chwilio am nwy siâl mewn ardaloedd yng Nghymru gan gynnwys Bro Morgannwg a chyrion Wrecsam.
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi gwneud yn glir ei fod yn ystyried bod ffracio’n ffordd addawol o gynnig ynni rhad, sicr i wledydd Prydain.
Cynlluniau ynni mawr
Roedd Ed Davey, un o weinidogion y Democratiaid Rhyddfrydol, yn siarad ar Radio Four heddiw, wrth drafod wyth cynllun mawr newydd ym maes ynni gwyrdd.
Fe gyhoeddodd y bydd y rheiny’n cael un o Gytundebau Er Mwyn Newid y Llywodraeth ond y bydd gwarant prisiau’n ychwanegu 2% at filiau ynni’n gyffredinol.
Fe ddywedodd y byddai’r cynlluniau, yn Lloegr a’r Alban, yn creu 8,500 o swyddi ac yn denu mwy na £12 biliwn o fuddsoddiadau preifat erbyn 2020.
Roedd yntau’n dadlau bod cynlluniau o’r fath yn angenrheidiol o ran sicrwydd ynni.