Max Clifford (Llun:PA)
Bydd rheithgor yn achos yr ymgynghorydd PR Max Clifford, allan am y pumed niwrnod wrth ystyried eu dyfarniad ar 11 cyhuddiad o ymosod yn anweddus.

Dim ond 10 o bobol sydd ar ôl ar y rheithgor yn Llys y Goron Southwark, ar ôl i ddau aelod arall gael eu diswyddo.

Mae Max Clifford, sy’n 71 oed, yn gwadu’r 11 cyhuddiad o ymosod yn anweddus yn erbyn saith o ferched.

‘Bwlio a dylanwadu’

Mae’r erlyniad wedi honni fod yr arbenigwr cysylltiadau cyhoeddus wedi defnyddio ei gysylltiadau gyda phobol adnabyddus i “fwlio a dylanwadu” ar ferched ifanc a’u gorfodi i gyflawni gweithredoedd rhywiol dros gyfnod o 20 mlynedd.

Ond mae Max Clifford wedi dweud mai “celwyddau” yw’r cyhuddiadau yn ei erbyn ac mae wedi cyhuddo’r dioddefwyr honedig o fod yn “ffantasiwyr”.

Roedd y troseddau honedig wedi digwydd rhwng 1966 a 1984 – cyn i Max Clifford ddod yn adnabyddus am ei gysylltiadau gyda straeon tabloid.

Clywodd y llys bod y merched – nad ydyn nhw’n adnabod ei gilydd – wedi mynd at yr heddlu yn sgil helynt Jimmy Savile.

Mae’r barnwr Anthony Leonard QC wedi rhybuddio’r rheithgor i anwybyddu achosion eraill o droseddau rhyw yn erbyn pobol adnabyddus gan ddweud eu bod nhw’n “amherthnasol” wrth ystyried eu dyfarniad.