Rhan o Hafod y Llan (Llun yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
Mae un o stadau Cymreig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn arwain gwaith yr elusen wrth gynhyrchu ynni gwyrdd.
Mewn rhan o brosiect peilot gwerth £3.5 miliwn, mae’r Ymddiriedolaeth wedi gosod tyrbin ynni dŵr ar dir eu fferm yn Hafod y Llan ar lethrau’r Wyddfa.
Fe fydd y pŵer sy’n cael ei gynhyrchu felly cael ei werthu drwy’r Grid Cenedlaethol i gyflenwr trydan gwyrdd, Good Energy, sydd hefyd yn bartner ynni i’r Ymddiriedolaeth.
Fe fydd yr incwm yn cael ei wario ar waith cadwraeth fel atgyweirio llwybrau troed a rheoli cynefinoedd pwysig, meddai’r Ymddiriedolaeth.
Mwy na digon i’r stad
Mae disgwyl i’r tyrbin gynhyrchu 1,900 o oriau megawat y flwyddyn – mwy o drydan nag sydd ei angen i bweru holl eiddo’r Ymddiriedolaeth yng Nghymru, neu digon i 445 o gartrefi.
Mae fferm Hafod y Llan ar Lwybr Watkin sy’n arwain at gopa’r Wyddfa. Cafodd ei phrynu i’r Ymddiriedolaeth yn dilyn ymgyrch dan arweiniad Syr Anthony Hopkins yn 1998.
Dywedodd yr Ymddiriedolaeth y bydd y cynllun yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r eiddo ac maen nhw wedi sefydlu cwmni masnachu i ddelio mewn ynni gwyrdd.
Rhagor o gynlluniau yng Nghymru
Yn ogystal â’r tyrbin ynni dwr ar fferm Hafod y Llan, mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol eisoes fwy na 250 o gynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa-bach a chanolig mewn eiddo ledled Cymru a Lloegr.
Rhan arall o’r cynllun peilot yw gosod pwmp gwres o’r môr yn yr afon Menai ar dir Plas Newydd ar Ynys Môn – fe fydd hwnnw’n gwresogi’r holl stad.
Mae tyrbin dŵr arall yn Hafod y Porth ger Beddgelert yn cynhyrchu trydan i’w werthu i’r grid.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gobeithio y byddan nhw’n gallu cynhyrchu
hanner eu hanghenion ynni trwy ddulliau gwyrdd erbyn 2020, gan arbed mwy na £4 miliwn y flwyddyn mewn costau.