Cheryl Lewis-Thomas (llun y teulu trwy PA)
Fe gafodd dyn o’r Cymoedd iawndal o £450,000 am niwed a ddigwyddodd iddo adeg ei eni 23 o flynyddoedd yn ôl.
Ac, yn ôl ei fam, mae hynny’n cyflawni proffwydoliaeth seicig oedd wedi dweud y byddai’n ennill achos ac yn bod yn hapus.
Dyna a wnaeth iddi benderfynu cymryd camre cyfreithiol, meddai Cheryl Lewis-Thomas, ar ôl i gyfreithwyr gyhoeddi bod ei mab, Jamie Lewis, wedi ennill yr arian.
Roedd yr achos wedi ei ddwyn tros driniaeth a gafodd adeg ei eni yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.
Camgymeriadau
Yn ôl ei gynrychiolwyr, roedd camgymeriadau a wnaed gan ddoctoriaid adeg ei eni wedi arwain at barlysu ei fraich a’i law chwith.
“Doedd e ddim yn gallu chwarae gyda phlant eraill, na defnyddio’i feic, ac roedd golwg ei fraich yn golygu ei fod yn destun bwlian,” meddai Cheryl Lewis-Thomas.
“Roeddwn i’n gwybod nad oedd y ffordd y cafodd ei drin adeg ei eni’n iawn ac nad oedd unrhyw fai arno ef.”
Er hynny, roedd un cwmni o gyfreithwyr wedi gwrthod cymryd yr achos a wnaeth hi ddim wedyn nes gweld y seicig ac wedyn mynd at gwmni newydd o gyfreithwyr.
Mae Jamie Lewis, sy’n byw yn y Coed Duon, Caerffili, bellach yn briod gyda dau o blant ei hunan.