Llys y Goron Bryste
Mae prif weithredwr un o gynghorau Cymru a’i ddirprwy wedi cael eu hanfon i Lys y Goron i wynebu cyhuddiadau o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Mae Michael O’Sullivan, 55 oed, Prif Weithredwr Cyngor Sir Bwrdeistref Caerffili, a’r Dirprwy Brif Weithredwr, Nigel Barnett, 51, yn cael eu cyhuddo o ymddwyn yn fwriadol i osgoi’r ddeddf lywodraeth leol ac atal craffu iawn ar y broses o bennu cyflog uchel swyddogion”.
Mae un o swyddogion Adran Gyfraith y Cyngor, Daniel Perkins, 48 oed, hefyd yn wynebu’r un cyhuddiad.
Gwrandawiad
Mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Bryste, fe ddywedodd y Barnwr Rhanbarth Joti Bopa-Roi y byddai’n rhaid i’r tir ymddangos yn Llys y Goron Bryste ar 13 Mai.
Y cyfan a wnaeth y tri diffynydd yn y gwrandawiad heddiw oedd cadarnhau eu henwau, eu hoed a’u cyfeiriadau – mae Michael O’Sullivan yn byw ym Nharc Penydarrebn, Merthyr, Nigel Barnett yn Aberbargoed a Daniel Perkins ym Mrynmawr.
Cafodd y tri eu rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod.