Ray Davies, canol (Llun CND)
Mae ymgyrchydd heddwch wedi dweud ei fod yn barod i dorri’r gyfraith er mwyn amharu ar Uwch Gynhadledd NATO yng Nghasnewydd ym mis Medi.

Mewn neges Basg ar ran y mudiad heddwch yng Nghymru, mae Ray Davies yn galw ar bobol i “atal rhyfelgwn NATO” rhag cyfarfod yng nghanolfan wyliau’r Celtic Manor ar gyrion y ddinas yng Ngwent.

Mae’r cynghorydd sir o Gaerffili yn proffwydo y bydd cyfarfod heddwch yng Nghaerdydd yr un pryd yn denu llawn cymaint o bobol â’r gynhadledd filwrol, a hynny o bob rhan o’r byd.

Diolch

Mae Ray Davies wedi diolch i Gyngor Caerdydd am fod yn fodlon rhoi cartref i’r gynhadledd heddwch.

“Dyma’r tro cyntaf i gyngor gytuno i groesawu cynhadledd o’r fath ac mae ein diolch i Gyngor Caerdydd am hynny,” meddai.

Ymysg digwyddiadau eraill sy’n cael eu trefnu bydd gorymdaith o ogledd i de Cymru a phrotestiadau heddychlon. Mae nifer o ddigwyddiadau eraill i’w cadarnhau.

Ond, meddai Ray Davies wrth Golwg360, bod nifer o bobol, gan gynnwys ef ei hun, yn barod i dorri’r gyfraith er mwyn amharu ar yr Uwchgynhadledd.

Cefndir

Yn ôl Ray Davies mae NATO wedi troi o fod yn fudiad amddiffyn i fod yn asiant rhyfel ac wedi symud oddi wrth y pwrpas gwreiddiol o gadw heddwch.

“Mae gan Gymru gyfle euraidd i gynnal cynhadledd wahanol iawn i’r un a fydd yng Nghasnewydd,” meddai.

“Rhaid i ni beidio ag anghofio am y rhai sydd heb lais, y miloedd di-ri a fydd yn cael eu lladd yn enw gwareiddiad gan NATO, ac rwy’n barod i wneud unrhyw beth o fewn fy ngallu i roi stop ar hynny.”

Stori: Ciron Gruffydd