Adeg y stormydd
Mae’r difrod i bromenâd Aberystwyth adeg stormydd mis Ionawr wedi troi “rhywbeth negyddol yn rhywbeth positif” i fusnesau’r dref, yn ôl rheolwr bwyty.

Wedi penwythnos “llewyrchus” gydag ymwelwyr a thrigolion yn heidio i’r drefn lan mor am eu gwyliau Pasg, mae rheolwr bwyty Baravin, yn credu bod yr holl sylw gan y wasg a’r cyfryngau wedi denu pobol i’r ardal.

Cafodd Aberystwyth ei heffeithio’n ddrwg wrth i lanw uchel a gwyntoedd cryfion ddifrodi’r promenâd ddechrau’r flwyddyn ac roedd lluniau o donnau mawr yn taro’r prom yn cael eu dangos yn aml yn y cyfryngau.

“Dw i’n meddwl fod yr holl sôn am y difrod i’r prom wedi denu pobol i’r ardal i weld beth oedd yn mynd ymlaen – a dim ond peth da yw hynny am ei fod o’n mynd i ddenu pobol yn ôl,” meddai Gareth Evans.

“Rydym ni wedi cael rhywbeth positif mas o rywbeth negyddol. Mae wedi bod yn benwythnos llewyrchus ac yn llwyddiant drwyddi draw.”

Penwythnos gorau’r flwyddyn’

Yn ôl un o reolwyr Gwesty Cymru, Caryl Davies: “O feddwl am bopeth sydd wedi digwydd o ran y stormydd, fe welson ni benwythnos gorau’r flwyddyn hyd yn hyn – a’r tywydd braf wedi helpu’n arw.

Ychwanegodd perchennog Gwesty’r Richmond, Richard Griffiths: “O ystyried ein bod wedi cael gaeaf caled, roedd y Pasg yn rhywbeth yr oedd pawb yn Aberystwyth yn edrych ymlaen ato.

“Ac roedd hi’n braf iawn gweld lot o gwsmeriaid yn mynd a dod – roedd yn arwydd bod twristiaeth yn dechrau’n ôl go iawn.”

Clod i’r cyngor

Ddechrau’r mis cafodd tref Aberystwyth hwb o £310,000 gan Lywodraeth Cymru i atgyweirio’r prom ac mae Cyngor Sir Ceredigion a’r corff amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi gwneud gwaith “eithriadol o dda”, yn ôl busnesau’r ardal.

“Mae’r cyngor wedi bod yn anhygoel. Maen nhw wedi gwneud gwaith cyflym iawn mewn amser byr,” meddai Gareth Evans.

Ac yn ôl Richard Griffiths: “Mae’r cynghorau wedi gwneud gwaith eithriadol o dda – rydyn ni fel busnesau yn ffodus iawn fod pethau wedi symud mor sydyn.”

Stori: Gwenllian Elias