Mae’r ddau undeb ffermwyr yng Nghymru wedi gwrthwynebu bwriad y Llywodraeth i newid yr iawndal ar gyfer TB mewn gwartheg.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru wedi anfon at y Gweinidog Amaeth, Alun Davies, yn dweud eu bod yn erbyn y syniad o dabl prisiau ar gyfer gwartheg sy’n cael eu difa.

Mae ‘r Undeb Amaethwyr yn ei gyhuddo o geisio arbed arian a’r FUW yn ei gyhuddo o sarhau ffermwyr trwy awgrymu nad ydyn nhw’n trio’n ddigon caled i atal y clefyd.

Mae’r ymgynghoriad swyddogol ar y cynllun newydd yn dod i ben heddiw, gyda’r Llywodraeth yn cynnig tabl o brisiau iawndal yn hytrach na chael arbenigwyr i brisio pob buwch yn unigol.

‘Annheg’ meddai’r undebau

Yn ôl y ddau undeb, fe fyddai’r drefn newydd yn annheg ac fe fyddai ffermwyr yn colli arian.

“Prisio gwartheg ar eu rhinweddau unigol yw’r unig fordd o gael tegwch i geidwaid gwartheg ac i’r trethdalwyr,” meddai ymateb NFU Cymru.

“Byddai tabl yn anghyfiawn ac, yn amlach na pheidio, yn arwain at daliadau is na gwir werth yr anifeiliaid,” meddai’r Undeb Amaethwyr.

“Dyw e’n ddim ond ffordd y gall Llywodraeth Cymru dalu llai am ganlyniadau eu diffyg gweithredu tros ddiciáu mewn gwartheg.”

Wrth gyhoeddi’r ymgynghoriad, fe ddywedodd Alun Davies ei fod yn chwilio am system sy’n “deg i ffermwyr gwartheg ac i drethdalwyr” ac un a fyddai “yn annog ffermwyr gwartheg i chwarae eu rhan i drechu’r clefyd”.

Yn ôl NFU Cymru roedd hynny’n awgrymu nad oedd ffermwyr yn gwneud digon a bod y taliadau’n eu hannog i laesu dwylo.

‘Ystyried y sylwadau’

Mae’r Gweinidog wedi dweud y bydd yn “ystyried yr holl sylwadau’n ofalus iawn” cyn penderfynu newid y system.

Tabl, gyda 50 o gategorïau gwahanol, sydd ar waith yn Lloegr ond mae’ Gweinidog hefyd wedi holi barn am gynllun gydag uchafswm taliadau o £1,600 yr anifail.

Mae cynllun peilot i roi cyngor ychwanegol am y diciâu mewn gwartheg mewn chwech ardal o Gymru hefyd yn dod i ben y mis hwn.