Mae elusen Brake yn galw am wahardd pob defnydd o ffonau symudol mewn cerbydau, ar ôl i arolwg diweddar ddangos fod 13% o yrwyr yn dal i ddefnyddio’u ffôn lôn yn eu dwylo wrth yrru.
Mae defnyddio ffon symudol yn y llaw wrth yrru wedi bod yn erbyn y gyfraith ers degawd a dangosodd y ffigyrau hefyd fod 4% yn darllen neu’n gyrru neges destun y tu ôl i’r llyw.
Er bod nifer y gyrwyr sy’n defnyddio’u ffonau symudol yn eu dwylo wedi lleihau o 36% ers 2006, mae nifer y rhai sy’n defnyddio ffonau ‘dim-dwylo’ wedi codi o 22% i 38%.
Mae Brake felly yn galw am wahardd pob defnydd o ffonau symudol gan yrwyr.
‘Dychrynllyd’
Dim ond 36% o bobol sy’n cefnogi’r gwaharddiad ond, yn ôl prif weithredwr Brake, Julie Townsend:
“Mae’n ddychrynllyd fod un o bob wyth gyrrwr yn dal i dorri’r gyfraith a rhoi bywydau gyrwyr eraill mewn peryg.”
“Ac mae hi’r un mor ddychrynllyd fod pobol yn credu fod defnyddio ffonau ‘dim dwylo’ yn ddewis saff.
“Gall defnyddio ffôn dim-dwylo ddinistrio bywydau hefyd, ac nid yw unrhyw alwad ffôn neu neges destun werth hynny. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth weithredu ar frys i roi terfyn ar yr ymddygiad yma.”