Preston Flores (Llun Heddlu'r Alban)
Mae’r bachgen bach a gafodd ei weld ar dân mewn stryd yn Aberdeen wedi marw.
Fe ddaeth y cyhoeddiad gan fam Preston Flores, saith oed, a ddywedodd ei fod “wedi mynd”.
Roedd cymdogion wedi gweld y bachgen saith oed mewn fflamau yn y stryd ger ei gartre’ tua dau o’r gloch ddydd Gwener.
Does dim esboniad hyn yn hyn ond y gred yw bod petrol yn rhan o’r digwyddiad ac, yn unol e2x’r drefn arferol, mae adroddiad wedi ei anfon at yr awdurdodau cyfreithiol.
Mae prifathrawes tros dro’r ysgol gynradd leol wedi talu teyrnged i’r plentyn a fu farw y bore yma mewn ysbyty i blant yng Nghaeredin.
“Roedd yn fachgen hwyliog gyda synnwyr digrifwch gwych a llawer o ffrinidau,” meddai Michelle McKay. “Roedd yn caru ei deulu hefyd ac wastad yn rhoi’r newyddion diweddara’ i ni am ei frawd bach newydd.”