Syr Tom Jones Llun: BBC Cymru
Mae’r sêr Cymreig fydd yn ymddangos mewn cynhyrchiad newydd o ddrama enwog Dylan Thomas, ‘Under Milk Wood’ yn cynnwys Syr Tom Jones, Katherine Jenkins a Michael Sheen.
Bydd y cyfrifoldeb o adrodd y stori yn nwylo Matthew Rhys, Griff Rhys Jones, Rakie Ayola, Ioan Gruffudd, Bryn Terfel a Charlotte Church.
Richard Burton oedd yr adroddwr gwreiddiol, ac mae bellach wedi anfarwoli’r rôl.
Bydd y cynhyrchiad diweddaraf o’r ddrama’n rhan o ddathliadau 60 o flynyddoedd ers i’r BBC ddarlledu’r ddrama radio am y tro cyntaf yn 1954.
Efrog Newydd
Bydd y cynhyrchiad yn cael ei ffilmio mewn dwy o hoff dafarnau’r bardd o Abertawe, sef Gwesty Brown’s yn Nhalacharn a’r White Horse Tavern yn Efrog Newydd, lleoliad ei sesiwn yfed olaf a arweiniodd at ei farwolaeth.
Mae ‘Under Milk Wood’ yn cael ei hadnabod fel drama leisiau ac mae wedi’i lleoli yn nhref Llareggub.
Fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf yn Efrog Newydd yn 1953, ond fe’i lluniwyd yng Nghymru.
Mae fersiwn ffilm o’r ddrama, fydd yn serennu Rhys Ifans, ar y gweill.
Yn y fersiwn ffilm ddiwethaf yn 1972, sêr y cynhyrchiad oedd Richard Burton ac Elizabeth Taylor.
‘Teyrnged deilwng’
Dywedodd y cynhyrchydd gweithredol, Bethan Jones y bu’n “fraint anferth” cael gweithio ar y cynhyrchiad, a’i bod yn “brofiad anhygoel i weld sut mae’r testun cyfarwydd hwn yn teimlo’n ffres a byw pan gaiff ei ddarllen gyda gwirionedd a symlrwydd”.
“Mae hi bron fel pe bai’r deunydd hwn yn rhan o DNA pawb.”
Ychwanegodd fod y cast wedi cadw at ddymuniad Dylan Thomas ei hun, sef “caru’r geiriau”.
Dywedodd Katherine Jenkins ei bod yn gobeithio bod y cynhyrchiad “yn deyrnged deilwng” i Dylan Thomas.
Cafodd ffilm arall yn adrodd hanes y bardd yn Efrog Newydd, ‘Set Fire to the Stars’ sy’n serennu Elijah Wood a Celyn Jones ei chwblhau’n ddiweddar.
Cafodd rhannau o’r stori ei ffilmio yn Abertawe.