Mae nifer y bobl sy’n ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng unwaith eto.
Fe fu gostyngiad o 6.8% yn nifer y rhai sy’n hawlio budd-dal di-waith rhwng mis Rhagfyr a Chwefror, sy’n golygu bod 102,000 bellach yn ddi-waith yng Nghymru.
Yng ngweddill y DU fe fu gostyngiad o 6.9% yn y tri mis sef 77,000. Mae 2.24 miliwn bellach yn ddi-waith – y ffigwr isaf ers pum mlynedd.
‘Cymru’n gwneud yn well na gweddill Prydain’
Wrth ymateb i’r ffigyrau diweddaraf, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones bod economi Cymru “unwaith eto, yn gwneud yn well nag unrhyw ran arall o Brydain.”
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf yn nifer y bobol a’r bobol ifanc sy’n gweithio a, dros yr un cyfnod, mae’r economi wedi gwella.
“Rydym hefyd wedi gweld mwy o gynnydd yn nifer y rhai sy’n gweithio i’r sector preifat nag yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
“Mae’n amlwg yn dangos yr effaith mae ein polisïau economaidd yn ei gael ar economi Cymru.”
‘Mwy i’w wneud’
Mae llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ar yr Economi, Eluned Parrott, wedi croesawu’r ffigyrau ond eto’n cydnabod fod mwy i’w wneud:
Dywedodd: “Uchelgais y Democratiaid Rhyddfrydol wrth ffurfio’r Llywodraeth Glymblaid oedd adfywio’r economi. Mae’r ffigyrau yma yn brawf pellach fod hynny’n digwydd.
“Ond, tra bod y gostyngiad yn nifer y di-waith i’w groesawu, does dim lle i laesu dwylo. Mae lot mwy i’w wneud gan fod nifer o bobol dal yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i waith.”
‘Hanesyddol’
Ychwanegodd David Jones AS, Ysgrifennydd Cymru:
“O dan y Llywodraeth yma, mae nifer y bobol sy’n gweithio yn fwy na 1.38 miliwn – a hynny am y tro cyntaf mewn hanes.
“Mae’r ffigyrau yn adlewyrchu’r hyder ym musnesau Cymru a sut y mae’r Llywodraeth yn creu’r amgylchiadau cywir ar gyfer twf a chyflogaeth.
“Wrth i mi ymweld â busnesau mawr a bach yng Nghymru, rwyf wedi gweld sut mae cwmnïau yn buddsoddi yn eu gweithlu er mwyn gallu cystadlu ar lefel genedlaethol.
“Mae’n duedd tymor hir sy’n dangos fod cynllun economaidd tymor hir yr economi yn gweithio.”
‘Argyfwng’
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru ar Economi, mae “tueddiadau pryderus” i’w gweld wrth edrych y tu ôl i’r ffigyrau.
“Mae mwy nag un o bob deg person yn gweithio’n rhan amser, ond eisiau bod yn llawn amser.
“Hefyd, rydym yn gwybod fod nifer y bobol ifanc sy’n ddi-waith yng Nghymru yn bedair gwaith yn uwch o dan Lywodraeth bresennol Lafur.
“Mae’n hanfodol i’r Llywodraeth dderbyn fod diweithdra ymysg yr ifanc yn argyfwng sydd wedi lledu’n gyflym o dan ei harweiniad a’i bod yn gweithredu ar frys.”