Bydd Pencampwriaeth Bysgota Glannau’r Byd yn cael ei gynnal yng Nghymru yn 2018.

Gwnaed y cyhoeddiad mewn cyfarfod o’r Cydffederasiwn Pysgota Rhyngwladol yn San Marino ddydd Gwener.

Pan fydd hi’n dod i Gymru, bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar hyd arfordir Sir Conwy.

Mae pymtheg o wledydd fel arfer yn cymryd rhan ym Mhencampwriaeth Pysgota Glannau’r Byd gan gynnwys Cymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon, Ffrainc, Sbaen, Portiwgal, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, yr Eidal, Croatia, De Affrica, Brasil a Tunisia.

‘Manteision economaidd’

Mae’r bencampwriaeth fel arfer yn wythnos o  hyd ond mae disgwyl mwy o fanteision economaidd i’r ardal gan y bydd timau yn cyrraedd o flaen llaw i ymarfer hefyd.

Dywedodd y Cynghorydd Graham Rees, aelod cabinet Sir Conwy dros dwristiaeth, hamdden a Marchnata: “Rwy’n falch iawn bod ein cais ni i gynnal y digwyddiad wedi bod yn un llwyddiannus.

“Yn ogystal â chroesawu 168 o gystadleuwyr i’r ardal, bydd  swyddogion, ffrindiau a theulu’r rhai sy’n cystadlu hefyd yn dod yma ac amcangyfrifir y bydd manteision economaidd o rhwng £780,000 a £900,000 i’r ardal.”