Cofeb Hillsborough
Fe fydd Lerpwl heddiw yn nodi 25 mlynedd ers trychineb Hillsborough pan gafodd 96 o bobl eu lladd.
Wrth i’r ddinas gofio’r rhai fu farw, fe fydd clychau’r eglwys yn canu 96 o weithiau o 3.06yp, yr union amser pan ddaeth gem Cwpan FA Lerpwl yn erbyn Nottingham Forest i ben yn Sheffield wrth i’r drasiedi ddigwydd.
Mae disgwyl i 24,000 o bobl fynd i wasanaeth coffa yn Anfield lle bydd teuluoedd a ffrindiau’r rhai fu farw yn ymuno a chwaraewyr, staff a chynrychiolwyr y clwb.
Fel arwydd o barch fe fydd y cwestau newydd sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn cael eu gohirio.