Geraint Thomas
Llwyddodd Geraint Thomas i orffen yn seithfed yn ras Paris-Roubaix dros y penwythnos, dau safle’n uwch na’i gyd-feiciwr yn nhîm Sky, Bradley Wiggins.
Gorffennodd Cymro arall y tîm, Luke Rowe, yn 31ain wrth i Niki Terpstra o’r Iseldiroedd dorri’r rhydd o weddill y pac i ennill y ras undydd.
Roedd Thomas a Wiggins ymysg y grŵp o feicwyr oedd ar flaen y ras heriol 257km, nes i Terpstra o dîm Omega Pharma Quickstep agor bwlch gyda chwe chilomedr i fynd i sicrhau buddugoliaeth o ugain eiliad.
Llwydodd Thomas ac Edvald Boasson Hagen, hefyd o dîm Sky, adfer eu ras ar ôl gwrthdrawiad yn agos i’r blaen gyda 70km i fynd, gyda Fabian Cancellara o’r Swistir hefyd yn cael ei ddal yn y llanast.
Yr Almaenwr John Degenkolb o dîm Giant ddaeth yn ail, gyda Cancellara o dîm Trek yn drydydd.
Rowe orffennodd yn bumed allan o wyth beiciwr Sky, y tu ôl i Thomas, Wiggins, Bernhard Eisel (13fed) a Hagen (21ain), gan groesi’r llinell dau funud a 55 eiliad y tu ôl i’r enillydd.
Ac fe gyfaddefodd Thomas fod ganddo deimladau cymysg wrth orffen y ras.
“Roedd yn rhwystredig fod rhai o’r beicwyr eraill wedi eistedd pan ddaeth y symudiad,” meddai Thomas. “Petai ni i gyd wedi seiclo gyda’n gilydd does wybod pa mor bell y gallwn ni fod wedi mynd.
“Roeddwn i ar fy ngliniau a bod yn onest yn y 10km diwethaf. Pan aeth Terpstra fe wnes i geisio gwthio a chadw’r bwlch mor fach â phosib.
“Mae’n neis bod yn y deg uchaf eto. Nes i ddim seiclo’r ffordd hawsaf. Roedden ni ar y blaen am lawer o’r amser. Mae’n braf, ond ar yr un pryd roedden ni eisiau gorffen ar y podiwm. Dwi’n credu’n bod ni’n sicr wedi gwella dros dymor y Clasuron.”