Yr wythnos diwethaf fe gadarnhaodd yr FIA fod Gene Haas, perchennog tîm NASCAR Americanaidd, wedi cael ei dderbyn i ddechrau tîm newydd yn F1.

Hwn fydd y tîm newydd cyntaf yn F1 ers 2010, pan ymunodd Lotus (Caterham erbyn hyn), Virgin (Marussia) a Hispania (wedi darfod ers 2012), ac mae’n golygu y bydd 13 tîm (26 car) y tymor nesaf.

Fe fydd hi’n ddiddorol gweld os bydd y tîm yn llwyddo. Yn 2010 roedd Tîm ‘USF1’ (wedi eu sefydlu yn  Charlotte, California) i fod i ymuno, ond ni wnaeth y prosiect ddwyn ffrwyth oherwydd problemau ariannol.

Marchnad fawr

Mae lansiad y tîm yma’n hynod bwysig i F1 gan fod y gamp yn bennaf yn un Ewropeaidd o ran cefnogaeth.

Ond mae America yn farchnad mor fawr a phwysig i’r timau, gyda’r gwneuthurwyr ceir megis Mercedes a Ferrari yn awyddus i dorri fewn i’r farchnad geir yn y wlad.

Mae’r rheolwyr a’r timau wedi ceisio tro ar ôl tro i sefydlu Fformiwla 1 yn yr UDA heb lwyddiant, gyda thraciau megis Phoenix, Indianapolis a hyd yn oed un o gwmpas maes parcio Caesar’s Palace yn Las Vegas!

Ond yn y gorffennol, mae F1 wedi saethu ei hun yn ei throed yn America. Yn 2005, pan gafodd GP UDA ei gynnal ar drac Indianapolis, dim ond chwe char (gan gynnwys y pedwar lleiaf cystadleuol) gymerodd rhan yn y ras oherwydd nad oedd teiars Michelin y gweddill yn gallu ymdopi â’r corneli uchel ar ran hirgrwn y trac.

Drwy gydol y ras roedd y ffans yn bwio ac yn taflu caniau diod at y trac i ddangos eu dicter. Dim ond dwywaith eto cafodd y ras ei chynnal yno.

Yn wir doedd dim gwlad waeth y buasai hyn wedi gallu digwydd ynddi i F1.

Dechrau eto’n Austin

Ond ers 2012 mae F1 wedi ymgartrefu yn nhrac The Circuit of the Americas yn Austin, Texas a gan ei fod yn drac pwrpasol (yn wahanol i Indianapolis), ac mae wedi profi’n boblogaidd gyda’r cefnogwyr.

Mae ail ras Americanaidd yn New Jersey, gydag Efrog Newydd yn y cefndir, hefyd wedi cael ei hawgrymu, ond dyw’r ras ddim wedi cael ei gwireddu eto oherwydd diffyg arian. Wedi dweud hynny, mi rydw i yn erbyn y syniad o gael mwy nag un ras mewn un wlad beth bynnag.

Gyda ras boblogaidd yn y wlad erbyn hyn, dwi’n siŵr y bydd cael tîm Americanaidd yn helpu Americanwyr i uniaethu ymhellach â’r gamp, gan roi rhywbeth iddyn nhw gefnogi a theimlo’n rhan ohoni. Yr unig beth sydd ar goll rŵan yw gyrwyr.

Dwi’n gobeithio y bydd y tîm yn llwyddiannus. Gan nad ydi unrhyw un o dimau 2010 wedi sgorio pwynt mewn pedair blynedd, mae hi’n bwysig i dîm Haas ennill hygrededd.

Gyda lwc, o 2015 ymlaen, fe fydd F1 yn gallu cryfhau ei chysylltiadau gyda’n cefndryd ar draws cefnfor yr  Iwerydd.