Lee Byrne
Llwyddodd pum tîm uchaf y Top 14 i ennill dros y penwythnos, wrth i bethau aros yn dynn ar y brig gyda phwynt yn unig yn gwahanu’r triawd ar y blaen yn Ffrainc.

Clermont sy’n aros yn drydydd ar ôl buddugoliaeth gyfforddus o 23-11 dros Castres sy’n golygu’u bod nhw’n cau’r bwlch o wahaniaeth pwyntiau ar Toulouse – a Lee Byrne yn chwarae gêm lawn iddyn nhw eto.

Fe arhosodd Racing Metro yn bedwerydd hefyd, pedwar pwynt y tu ôl i Clermont a phump y tu ôl i Montpellier ar y brig, ar ôl iddyn nhw drechu Biarritz yn hawdd o 37-7.

Dechreuodd Jamie Roberts a Mike Phillips i’r tîm buddugol (gyda Dan Lydiate yn gwylio’r cyfan o’r fainc), tra daeth Ben Broster ac Aled Brew ymlaen fel eilyddion wrth i’w tîm dderbyn crasfa arall yn eu tymor trychinebus.

Ac fe gododd Perpignan un safle i 11eg yn y gynghrair ar ôl trechu Oyonnax o 22-12 gyda James Hook a Luke Charteris yn chwarae.

Dechreuodd Hook fel maswr am unwaith, gan drosi cais, cicio gôl adlam a llwyddo gyda phedair cic gosb – oes ganddo’i lygad o hyd ar grys rhif 10 Cymru?

Er i George North sgorio cais dros Northampton colli oedd eu hanes yn erbyn Saracens yn y gêm fawr ar frig Cynghrair Aviva Lloegr, gyda’r Sarries bellach ddeg pwynt o flaen y Seintiau ar frig y gynghrair.

Llwyddodd Caerlŷr i aros yn drydydd ar ôl buddugoliaeth o 27-15 dros Wasps, Owen Williams yn dechrau fel maswr unwaith eto ac yn trosi dwy o’u ceisiau yn ogystal â chic gosb.

Arhosodd Caerfaddon yn bedwerydd ar ôl buddugoliaeth o 18-17 mewn gêm fudr tu hwnt yn eu darbi fawr yn erbyn Caerloyw, gyda’r dyfarnwr yn dangos pum cerdyn melyn a dau gerdyn coch.

Dechreuodd Paul James dros Gaerfaddon gyda Gavin Henson ar y fainc, tra bod Will James a Martyn Thomas hefyd ym mhymtheg cyntaf Caerloyw.

Ond Tavis Knoyle ddygodd y penawdau wrth iddo ddod oddi ar y fainc i Gaerloyw a gweld y cerdyn coch am daro gwrthwynebwr, gyda’r ddau dîm yn ymladd ar ddiwedd y gêm wrth i bethau droi’n hyll.

Yn y frwydr ar waelodion y tabl fe sgoriodd Andy Fenby dair cais wrth i Wyddelod Llundain sicrhau buddugoliaeth gyfforddus o 40-12 dros Warren Fury a Newcastle, gydag Ian Gough a Darren Allinson hefyd yn ymddangos ar fainc y tîm buddugol.

Llwyddodd Caerwysg i gipio’r pwyntiau hefyd mewn gêm gyffrous tu hwnt yn erbyn Caerwrangon, wrth i dîm Phil Dollman a Craig Mitchell drechu gwŷr Jonathan Thomas o 38-33.

A cholli oedd hanes bechgyn Sale nos Wener, gydag Eifion Lewis-Roberts, Dwayne Peel, Marc Jones, Jonathan Mills a Nick MacLeod yn gweld eu tîm yn cael eu trechu o 27-12 gan Harlequins.

Seren yr wythnos: Andy Fenby – hat-tric arall i’r asgellwr sydd wedi serennu ar brydiau’r tymor yma.

Siom yr wythnos: Tavis Knoyle – reit yn ei chanol hi wrth i bethau droi’n flêr yng Nghaerloyw.