Joe Allen
Fe gymerodd Lerpwl gam anferthol tuag at ennill yr Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth dros Man City brynhawn Sul – ar ôl ildio dwy gôl o fantais.

Roedd y Cochion ar y blaen yn gyfforddus o 2-0 ar yr egwyl, cyn i Man City ddod a’r gêm yn gyfartal gyda dwy gôl gynnar yn yr ail hanner.

Ond wedi i Joe Allen ddod oddi ar y fainc ar ôl 66 munud dechreuodd Lerpwl bwyllo, gan gipio gôl hwyr diolch i Coutinho cyn dal ymlaen am dri phwynt hanfodol.

Roedd hi’n benwythnos allweddol i Gaerdydd hefyd wrth iddyn nhw gipio buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Southampton o 1-0 er mwyn cadw’u gobeithion o aros fyny yn fyw, Craig Bellamy’n dod oddi ar y fainc am dri munud.

Doedd hi ddim cystal i Abertawe wrth iddyn nhw ddisgyn yn agosach i safleoedd y cwymp ar ôl colli 1-0 i Chelsea, gydag Ashley Williams a Ben Davies yn chwarae gêm lawn.

Ond mae Crystal Palace bellach yn siŵr o fod yn saff ar ôl iddyn nhw drechu Aston Villa 1-0 gyda Joe Ledley eto’n chwarae rhan bwysig yn eu buddugoliaeth.

Llwyddodd Real Madrid i fanteisio ar golled Barcelona wrth guro Almeria’n hawdd o 4-0 er mwyn codi i’r ail safle yn La Liga, gyda Gareth Bale yn rhwydo’u hail gôl – ond maen nhw’n aros tri phwynt y tu ôl i Atletico ar y brig.

Ac yng Nghwpan FA Lloegr trechodd un Cymro’r llall, wrth i Aaron Ramsey ac Arsenal ennill yn erbyn Jack Collison a Wigan ar giciau o’r smotyn.

Cafodd Ramsey ei eilyddio cyn y diwedd ar ôl dechrau’i gêm gyntaf ers dychwelyd o anaf – ond fe fethodd Collison un o’r ciciau allweddol sy’n golygu mai’r Gunners fydd yn dychwelyd i Wembley mewn mis.

Yn y Bencampwriaeth fe gadwodd Ipswich y pwysau ar y chwech uchaf gyda buddugoliaeth o 2-1 dros Doncaster, gyda Luke Chambers yn rhwydo’r gôl fuddugol ar ôl i ergyd Jonny Williams gael ei harbed – a thîm David Cotterill yn dychwelyd yn waglaw.

Fe sgoriodd Steve Morison gôl gyntaf Millwall wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal o 2-2 yn erbyn Watford, canlyniad sy’n eu cadw yn y tri gwaelod.

Ac fe ddisgynnodd Huddersfield yn agosach at y safleoedd cwymp hefyd ar ôl colli 3-0 i Derby, wrth i Joel Lynch dderbyn cerdyn coch cyn yr egwyl.

Mae Barnsley a Lewin Nyatanga yn aros ar waelod y gynghrair ar ôl colli 1-0 i Bolton, tra bod Rhoys Wiggins a Simon Church hefyd dal mewn trwbl â Charlton ar ôl iddyn nhw gael cweir o 3-0 gan Brighton.

Yng Nghynghrair Un fe sicrhaodd Wolves eu dyrchafiad dros y penwythnos gyda buddugoliaeth o 2-0 dros Crewe, Dave Edwards yn rhwydo’u hail gôl a Sam Ricketts hefyd yn chwarae gêm lawn.

Llwyddodd Tranmere i sicrhau buddugoliaeth allweddol wrth iddyn nhw geisio osgoi’r cwymp gan drechu Amwythig, sydd hefyd yn y gwaelodion, o 2-1 – chwaraeodd Owain Fôn Williams, Jake Cassidy, Ash Taylor a Jason Koumas unwaith eto.

A llongyfarchiadau hefyd i Craig Davies, wrth iddo sgorio hat-tric i Preston mewn buddugoliaeth o 6-1 dros Carlisle.

Seren yr wythnos: Dave Edwards – ei bedwaredd gôl mewn chwe gêm yn helpu Wolves yn ôl i’r Bencampwriaeth.

Siom yr wythnos: Jack Collison – cic o’r smotyn sâl iawn ganddo yn rownd gynderfynol y gwpan.