Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi cyhuddo’r Weinyddiaeth Amddiffyn o ryddhau dogfennau ynglŷn ag amseroedd aros ar gyfer rhoi triniaeth i filwyr yng Nghymru heb ganiatâd.
Roedd papur newydd y Sun on Sunday yn honni fod milwyr yn gorfod aros yn hirach am driniaeth yng Nghymru nag unrhyw ran arall o Brydain.
Yn ôl y papur, mae un o Lawfeddygon y Llu Awyr, Paul Evans, wedi dweud mewn cyfarfod yn Whitehall fod y Fyddin yn ystyried trosglwyddo milwyr sy’n dioddef o anafiadau i Loegr am driniaeth.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Y Prif Weinidog ddoe fod honiadau fod y Fyddin yn ystyried trosglwyddo milwyr sy’n dioddef o anafiadau i Loegr am driniaeth yn “gywilyddus”.
‘Nonsens pur’
Ychwanegodd Carwyn Jones, mewn cyfweliad a BBC Cymru, fod yr honiadau yn “nonsens pur” gan gyhuddo’r Weinyddiaeth Amddiffyn o drosglwyddo gwybodaeth ymlaen er mwyn “achosi niwed i ni”.
Gofynnodd hefyd a yw Llywodraeth Prydain “o ddifri am gadw’r undeb ynghyd pan maen nhw’n bwrw Cymru drwy’r amser.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn fod y wybodaeth am amseroedd aros i filwyr wedi dod mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth.