Lisa Gwilym
Bydd Brwydr y Bandiau yn dychwelyd unwaith eto eleni gyda’r rownd gynderfynol cyntaf yn cael ei darlledu ar raglen C2 Radio Cymru heno.
Aran, Trwbz ac Y Gwyryf fydd yn cystadlu heno, gyda Meibion Jack, Y Rhacs a Nofa yn cystadlu nos Fercher er mwyn ceisio cipio’r tri lle yn y rownd derfynol, fydd ar C2 ar 7 Mai.
Bydd y bandiau sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael cyfle i fynd i stiwdio i recordio eu caneuon am ddiwrnod, gyda’r band buddugol yn cael recordio sesiwn C2, gigio ym Maes B, Gŵyl Tafwyl 2014 a gigiau Mentrau Iaith, a chael erthygl arnynt yng Nghylchgrawn Selar.
Dywedodd Lisa Gwilym, fydd yn cyflwyno’r ail rownd gynderfynol nos Fercher, ei bod yn edrych ymlaen at y gystadleuaeth ac mai’r gystadleuaeth yw un o’i uchafbwyntiau fel cyflwynydd.
“Un o’r pethe dwi’n mwynhau fwyaf am gyflwyno ar C2 ydy medru rhoi sylw a chyfleoedd i fandiau ifanc hollol newydd – drwy chwarae ‘demos’, recordio sesiynau a chyfweliadau – ac, wrth gwrs drwy gyflwyno Brwydr y Bandiau meddai’r gyflwynwraig ar ei blog C2.
Yr wythnos nesaf fe fydd Y Ffug, enillwyr Brwydr y Bandiau’r llynedd, yn lansio’u EP newydd nhw, ‘Cofiwch Tryweryn’.
Bydd modd cofrestru ar-lein i bleidleisio am eich hoff fand – gallwch hefyd ddarllen blog Miriam Elin Jones am y gystadleuaeth yma.