Galeri Caernarfon
Dydd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon eleni gan fudo o’r brifddinas am y tro cyntaf.

Bydd y seremoni ‘n cael ei chynnal yn Galeri Caernarfon ar nos Iau, 10 Gorffennaf a bydd buddugwyr y categorïau barddoniaeth, ffuglen a ffeithiol greadigol yn Gymraeg ac yn Saesneg yn cael eu cyhoeddi cyn cyhoeddi’r llyfrau fydd yn cipio teitlau Llyfr y Flwyddyn Cymraeg 2014, a Llyfr y Flwyddyn Saesneg 2014.

Bydd enillydd pob categori yn derbyn siec o £2,000, a’r prif enillydd ym mhob iaith yn derbyn gwobr o £6,000 ychwanegol. Caiff enillydd y categori Barddoniaeth yn Saesneg ei enwi yn enillydd y Roland Mathias Poetry Award.

Yn beirniadu’r llyfrau Cymraeg eleni mae’r awdur ac enillydd Llyfr y Flwyddyn 2008, Gareth Miles, y bardd Eurig Salisbury, a’r awdur a’r blogiwr Lowri Cooke.

Ar y panel Saesneg mae’r darlithydd Andrew Webb, yr awdur a’r newyddiadurwr Jasper Rees, a’r comedïwr Nadia Kamil.

Caiff Rhestr Fer o naw llyfr Cymraeg a naw llyfr Saesneg ei chyhoeddi trwy ddarllediad ar-lein arbennig ar y cyd â’r rhaglen gelfyddydau Pethe, ar ddydd Gwener 9 Mai, a gellir ei wylio’n fyw ar wefan Llyfr y Flwyddyn: www.llyfryflwyddyn.co.uk

‘Cartref newydd’

Dywedodd Lleucu Siencyn, prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Llenyddiaeth Cymru yn hynod falch fod un o ganolfannau diwylliant pwysig Cymru yn rhoi cartref newydd i Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn eleni.

“Mae’n hollbwysig fod Llyfr y Flwyddyn yn cael ei gweld fel gwobr i ddarllenwyr Cymru gyfan, ac mae’r newid hwn o gael Seremoni Wobrwyo deithiol yn gam ychwanegol tuag at y nod hwnnw.”

Mae croeso cynnes i bawb i’r Seremoni Wobrwyo. Pris tocynnau yw £10.00 / £8.00, ac mae derbyniad gwin a chanapés yn gynwysedig yn y pris. Mae tocynnau ar werth o 1 Ebrill a gellir eu prynu trwy Galeri Caernarfon:  01286 685 222 / www.galericaernarfon.com