Mae byd y trydarwyr wedi cyffroi unwaith eto yn dilyn ffrae ynglŷn â’r iaith Gymraeg ar y radio.

Yn dilyn y dadlau a fu ar ôl darllediad am yr iaith ar Radio Wales yn ddiweddar, mae’r trydarwyr yn awr wedi gwylltio yn dilyn darllediad o’r rhaglen Any Questions ar Radio 4.

Roedd y rhaglen yn dod o Gas-gwent y tro hwn, a’r panelwyr oedd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams; Dirprwy Gadeirydd UKIP, Neil Hamilton, yr Aelod Seneddol Ceidwadol Jesse Norman a chyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain AS.

Fe holodd aelod o’r gynulleidfa, oedd yn llywodraethwyr ysgol gynradd leol, sut oedd Llywodraeth Cymru yn gallu cyfiawnhau gwario gymaint ar ddogfennau Cymraeg, arwyddion ffyrdd Cymraeg ac arwyddion siop Cymraeg.

Roedd y panelwyr i gyd yn cefnogi gwariant ar yr iaith gyda Kirsty Williams yn nodi fod Cymru yn wlad ddwyieithog, lle mae’r Gymraeg a Saesneg yn gyfartal. Roedd yn falch o’n diwylliant a’n hiaith, meddai.

Sylw Neil Hamilton yn ystod ei ymateb oedd mai’r Gymraeg oedd ‘iaith y nefoedd’. Roedd Peter Hain yn cefnogi barn Kirsty Williams yn llwyr, meddai.

Roedd hi’n amlwg nad oedd y gynulleidfa yng Nghas-gwent yn cytuno â’r panelwyr, fodd bynnag, a chafwyd bonllefau o gymeradwyaeth yn cefnogi’r sawl wnaeth holi’r cwestiwn.

Dyma ymateb rhai fu’n trydar:

https://twitter.com/BBCRadio4/status/452169992407355393

Emyr Gruffydd ‏@emyr1990 13h

@bethanjenkins @Rhuanedd @BBCRadio4 Mae’n lwcus nad oes unrrhyw wydr yn agos ata fi. Bydde fe wedi whalu’n bishys.

Rugby Sad Dragon ‏@wru4me 13h

@BBCRadio4 @RussellRElliott Radio 4 morons. Own language in own country. Welsh speakers pay taxes and have right to speak Welsh