Mae Popeth Cymraeg wedi cyhoeddi eu bwriad i agor Canolfan Iaith newydd ym Mhrestatyn.

Daw’r cyhoeddiad wrth iddyn nhw geisio amddiffyn y Gymraeg yn Sir Ddinbych.

Bydd y ganolfan newydd yn darparu gwasanaethau i Gymry Cymraeg a dysgwyr, a fydd yn sicrhau bod ganddyn nhw un ganolfan yn hytrach na nifer o ganolfannau ar wasgar ar draws y sir.

Cafodd y ganolfan newydd gefnogaeth yr holl bleidiau gwleidyddol, gydag Ann Jones (Llafur), Llyr Huws Gruffydd (Plaid Cymru), Aled Roberts (Democratiaid Rhyddfrydol) ac Antoinette Sandbach (Ceidwadwyr) yn cefnogi’r ymgyrch.

Roedden nhw wedi anfon llythyr at y Gweinidog Addysg, Huw Lewis yn cefnogi sefydlu’r ganolfan.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn cydweithio gyda Popeth Cymraeg wrth gynllunio’r ganolfan.

‘Lleoliad perffaith’

Mewn datganiad, dywedodd Prif Weithredwr Popeth Cymraeg, Ioan Talfryn: “Mae hi wedi bod yn fwriad gynnon ni ers nifer o flynyddoedd i agor canolfan iaith yng Ngogledd Sir Ddinbych.

“Mae’r arolwg presennol o sefyllfa’r Gymraeg yn y sir a’r nifer dda o ddysgwyr sydd yn mynychu’r dosbarthiadau yma yn golygu mai rŵan ydy’r amser delfrydol i fwrw ymlaen gyda’r cynllun.

“Mae Prestatyn yn lle bywiog iawn ac mae wedi gweld llawer o ddatblygiadau positif iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Bydd yn lleoliad perffaith ar gyfer ein canolfan newydd.”

‘Brwdfrydedd mawr’

Ychwanegodd Cadeirydd Cyfarwyddwr Popeth Cymraeg, Dyfrig Berry y “bydd sefydlu’r drydedd Ganolfan hon yn benllanw dros 25 mlynedd o weithgarwch er lles dysgwyr y rhan hon o Gymru”.

Ychwanegodd Is-gadeirydd Popeth Cymraeg, Mary Steel, sydd yn ddysgwraig yn y sir, fod “cael canolfan iaith bwrpasol ar garreg eich drws yn rhywbeth pwysig iawn”.

Cafodd y newyddion ei groesawu gan y Cynghorydd Huw Jones, aelod o gabinet y Cyngor Sir sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.

Dywedodd fod “brwdfrydedd mawr i warchod y Gymraeg” a’i fod yn “falch iawn o weld datblygiad mor gadarnhaol all ddiwallu anghenion dysgwyr ar hyd y glannau”.