Mae’r Arglwydd Dafydd Wigley wedi galw am ymchwiliad i benderfyniad Awdurdod S4C i symud ei phencadlys i Gaerfyrddin, os na fydd gwybodaeth yn cael ei rhyddhau gan S4C ynglŷn â sut wnaethpwyd y penderfyniad.

Yn ôl Dafydd Wigley daeth y cyhoeddiad bod y pencadlys yn mynd i Gaerfyrddin yn “sydyn iawn” yn sgîl ymweliad Awdurdod S4C efo Caernarfon wythnos i ddydd Llun diwethaf.

Ond mae S4C wedi dweud wrth golwg360 iddyn nhw fod “yn agored am [y] gofynion o ran yr hyn rydym am ei gyflawni wrth adleoli’n pencadlys”.

Wythnos yn ôl roedd Awdurdod S4C yn cyfarfod i drafod symud y pencadlys, a bu cyhoeddiad swyddogol eu bod yn symud i Gaerfyrddin toc wedi tri’r prynhawn hwnnw.

Os na fydd S4C yn fodlon datgelu’n union sut wnaed y penderfyniad i symud y pencadlys, mae’r Arglwydd Wigley am weld y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus neu  Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon y Llywodraeth yn San Steffan yn cynnal ymchwiliad.

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru o’r farn bod S4C wedi “bradychu” Caernarfon trwy beidio symud eu pencadlys yno, ac y byddai wedi bod yn rhywbeth naturiol iawn i ddod i Wynedd.

“A chymryd eu bod nhw [Awdurdod S4C] wedi cymryd sylw o be ddywedwyd yng Nghaernarfon, bysa rhywun wedi tybio o leiaf y basa angen chwilio i mewn i oblygiadau be oedd yn cael ei ddweud gan Dyfed Edwards [Arweinydd Cyngor Gwynedd] ac eraill,” meddai.

“Ond mae’n ymddangos fod y penderfyniad wedi ei wneud o fewn oriau bron.”

Ymateb S4C

Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:

“Mae S4C wedi bod yn agored am ei gofynion o ran yr hyn rydym am ei gyflawni wrth adleoli’n pencadlys.  Yn gyffredinol, roedd Awdurdod y Sianel wedi dweud y byddai angen i gynllun adleoli fod yn fuddiol i’r gwasanaeth ac yn gost-niwtral dros gyfnod.  Hefyd roedd yr Awdurdod yn glir am ei ofyniad i sicrhau bod modd creu manteision ieithyddol, diwylliannol ac economaidd.  Roedd nifer o feini prawf agored wedi’u cyhoeddi yn seiliedig ar y gofynion hyn, ac yng ngholeuni’r meini prawf hynny y cafodd y penderfyniad terfynol ei wneud.

“Ar fater ffeithiol, mi aeth aelodau’r Awdurdod i weld cyflwyniadau terfynol Caernarfon ar ddydd Llun 10fed Mawrth a Chaerfyrddin ar yr 11eg.  Roedd yr ymweliadau hyn yn rhan o gamau olaf y broses hir o gyd-weithio rhwng swyddogion S4C ac arweinwyr y ceisiadau ac o werthuso’r ceisiadau hynny a oedd wedi dechrau pan gyhoeddwyd y rhestr fer ym mis Medi 2013.  Roedd manylion y ceisiadau terfynnol wedi’u darparu ymhell o flaen llaw gan y ddwy ardal, oedd wedi’u trin yr un fath bob cam.  Cafodd y manylion eu trafod ymhellach rhwng y 12eg a’r 14eg Mawrth cyn i’r penderfyniad gael ei wneud.”

Gogs ar ei cholled?

“Mi fasa’r fantais economaidd wedi bod yn fwy sylweddol yng Nghaernarfon nag yn ne orllewin Cymru,” meddai Dafydd Wigley.

“Mae’r gogledd wedi colli allan ar nifer o bethau dros y blynyddoedd. Mae rhywun yn teimlo mai’r duedd ydy buddsoddi yng nghoridor yr M4.

“Mae rhai pethau, fel stiwdios teledu Pinewood, efallai na fyddai’n bosib eu cael yn y gogledd, ond pan mae yna rywbeth sy’n naturiol i fod i fyny yng Ngwynedd, mi ddylai bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau hynny.

“Dw i’n teimlo mai Caernarfon oedd ffocws teledu Cymraeg o’r dechrau un, ac mi oedd hyn mor bwysig i’r ardal, ond dyma esiampl arall o sefydliadau yng Nghaerdydd yn gwneud penderfyniadau er eu cyfleustra nhw’i hunain.”

Mae golwg360 wedi gofyn i S4C am ymateb.