Cynog Dafis
Trwy gwyno’n gyhoeddus am sylwadau Leanne Wood am UKIP mi wnaeth Dafydd Elis-Thomas ‘sabotajo’ cynhadledd ddiweddar y Blaid.

Dyna mae cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Geredigion wedi ei ddweud mewn llythyr at gylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

Meddai Cynog Dafis yn ei lythyr: ‘Ar ddiwedd Cynhadledd Wanwyn eithriadol o lwyddiannus, adeiladol, synhwyrol a chadarnhaol, dewisodd DET [Dafydd Elis-Thomas] godi crachen ynghylch geiriad rhan cymharol fach o araith Leanne Wood – un o’r areithiau mwyaf arwyddocaol a draddodwyd o lwyfan y Blaid ers tro mawr.’

Yn y gynhadledd roedd yr Arweinydd Leanne Wood wedi cyhuddo UKIP o fod yn ‘anghymreig’, a Dafydd Elis-Thomas wedi ei beirniadu.

Er iddo gael ei ddiswyddo o’i waith yn Gadeirydd Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad yn dilyn ei sylwadau, nid yw Dafydd Elis-Thomas yn edifar am feirniadu Leanne Wood.

“Dydach chi ddim yn disgrifio plaid fel bod yn anghymreig. Dydi o ddim yn briodol disgrifio plaid fel yna,” meddai Dafydd Elis-Thomas wrth golwg360 yn dilyn ei ddiswyddo.

“Os oes yna bobol sy’n ystyried pleidleisio dros UKIP am eu bod yn ofni’r Undeb Ewropeaidd a’r berthynas, yna allwn ni ddim ond ymateb drwy negeseuon positif, nid drwy fynegi negyddol sy’n diraddio deallusrwydd pleidleiswyr neu ymosod ar eu hunaniaeth.”

‘Anhygoel’

Meddai Cynog Dafis yn ei lythyr: ‘Mae’n anhygoel i fi fod DET o bawb yn dewis cweryla â safbwynt fel yna. Cwiblan geiriol yw ei wrthwynebiad i gyhuddiad Leanne Wood nad gwerthoedd Cymru yw’r eiddo UKIP a’r defnydd o’r gair ‘anghymreig’ mewn datganiad i’r wasg.

‘Drwy fanylu ar y geiriad fe gamddehonglodd neges araith Leanne Wood yn llwyr a thrwy wneud hynny fe sabotajodd Gynhadledd hynod o oleuedig ac adeiladol. Drwy herio’r penderfyniad i’w ddiswyddo o gadair pwyllgor mae’n parhau i wneud hynny ac yn achosi’r mwyafswm posibl o ddifrod i’r Blaid ar adeg hynod o sensitif.

‘Trosedd wleidyddol anfaddeuol.’

Cewch ddarllen y llythyr yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg.