Mae myfyrwyr yn dweud bod Prifysgol Aberystwyth wedi gorchymyn swyddogion diogelwch i‘w symud wrth iddyn nhw brotestio tu allan i gyfarfod Cyngor y Brifysgol y bore yma.

Yn ôl undeb myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, UMCA, daeth y gorchymyn i’w symud nhw gan  lywydd y Brifysgol,  Syr Emyr Jones Parry.

Mae’r Brifysgol wedi dweud eu bod nhw’n fodlon i’r protestio ddigwydd, ar yr amod nad oedd y myfyrwyr yn tafu ar gyfarfod y Cyngor.

Dyma’r brotest ddiweddara’ gan fyfyrwyr er mwyn tynnu sylw at eu hymgyrch yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn fel llety ar gyfer myfyrwyr Cymraeg.

Daw’r brotest yn dilyn cyfarfod ddydd Mercher, pan ddaeth rhai o gyn-Lywyddion UMCA i gwrdd ag Is-ganghellor ac uwch swyddogion y Brifysgol, i leisio cefnogaeth i ymgyrch y myfyrwyr.

Cau Panti – penderfyniad y Cyngor

Yn y cyfarfod hwnnw, mae UMCA yn dweud bod yr Is-ganghellor, yr Athro April McMahon, wedi dweud mai penderfyniad Cyngor y Brifysgol oedd cau Neuadd Pantycelyn fel llety i fyfyrwyr Cymraeg, gan awgrymu nad oedd modd i reolwyr y Brifysgol newid y polisi hwnnw.

Meddai Mared Ifan, Llywydd UMCA: “Rydyn ni’n falch o’r gefnogaeth sydd wedi bod i’n hymgyrch ni gan gyn-fyfyrwyr a phobl Cymru yn gyffredinol.

“Mae’r Is-ganghellor wedi nodi’n eglur mai Cyngor y Brifysgol sydd wedi penderfynu cau Neuadd Pantycelyn. Rhaid i ni fynd â’n hachos i aelodau’r Cyngor felly.

“Mae Pantycelyn yn hanfodol i’r gymuned Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ddylai Emyr Jones Parry ac aelodau’r Cyngor ddim cau llais y myfyrwyr allan. Yn hytrach dylen nhw wrando a newid eu penderfyniad niweidiol, a chadw Pantycelyn fel llety i fyfyrwyr Cymraeg ar ôl 2014-15”.

Ymateb y Brifysgol

‘Mae Prifysgol Aberystwyth yn parchu hawl myfyrwyr i brotestio. Cafwyd protest gan nifer fach o fyfyrwyr y bore yma parthed cynlluniau’r Brifysgol i adleoli cymunded Gymraeg myfyrwyr y Brifysgol i ddatblygiad newydd Fferm Penglais. Bu Sir Emyr, Llywydd y Brifysgol, yn trafod â’r grwp gan nodi ei fod yn hapus iddynt barhau â’u protest ar yr amod eu bod yn gallu gwneud hynny heb darfu ar allu’r cyfarfod i fynd i’r afael â’r gwaith sylweddol o’u blaenau. Oni bai eu bod yn gallu gwneud hynny, gofynnwyd iddynt ystyried symud, ac fe gytunon i wneud hynny.’