Bydd undebau yn lobïo bwrdd llywodraethwyr Prifysgol Glyndŵr heddiw mewn protest dros y ffordd mae’r Brifysgol wedi delio â diswyddo staff.
Ond mae’r Brifysgol yn hapsu eu bod nhw wedi ymgynghori’n deg a thrylwyr gyda’r gweithwyr wrth geisio gwneud arbedion.
Mae’r cynlluniau presennol yn golygu y bydd 10% o’r staff yn cael eu diswyddo – sef 65 o 611 o swyddi yn mynd.
Cafodd Unsain ac UCU Cymru, yr undebau llafur sy’n cynrychioli staff Glyndŵr, eu hysbysu’n ffurfiol am y diswyddiadau ar 12 Chwefror eleni.
Er i’r undebau ofyn am ragor o wybodaeth am ba swyddi oedd mewn perygl, maen nhw’n honni na chawson nhw ateb tan ddydd Llun 17 Mawrth.
Fe wnaeth y Brifysgol hefyd addo darparu gwybodaeth i’r undebau fel man cychwyn ar gyfer ymgynghoriad erbyn y 5ed o Fawrth. Cafodd y dyddiad hwnnw ei newid gan y Brifysgol i 19 Mawrth ond roedd hi’n ddoe, 20 Mawrth, ar yr undebau’n derbyn rhywfaint o’r wybodaeth, madden nhw.
Yr undeb
Meddai Geoff Edkins, trefnydd rhanbarthol Unsain: “Mae’r Brifysgol wedi dweud yn gyson eu bod wedi ymrwymo i ymgynghoriadau ystyrlon ac eto, dro ar ôl tro, mae’r Brifysgol yn gwrthod neu’n methu rhoi’r wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen ar yr undebau i ddechrau ar y broses ymgynghori.
“Yr unig beth ydyn ni gofyn i’r Brifysgol wneud yw trin eu staff gyda pharch ac i gyflawni eu rhwymedigaethau i ymgynghori mewn ffordd briodol.”
Y Brifysgol
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Glyndŵr: “Mae’r Brifysgol yn ystyried y cynigion ar gyfer newid i fod yn fuddiol i’r Brifysgol a’i weithwyr yn y tymor hir. Mae wedi ymrwymo i gyflawni’r newid hwn drwy gyfranogi’n llawn a thrwy ymrwymiad i’w gweithwyr.
“Mae’n annog yr undebau i gyflawni eu rhwymedigaeth fel cynrychiolwyr staff drwy sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cael ei dosbarthu i holl weithwyr y Brifysgol mewn modd amserol a thrwy sianeli priodol.”
“Nid yw’n addas i ymgynghori ystyrlon, nac ychwaith er lles gorau’r rhai maent yn eu cynrychioli, bod undebau yn cymryd rhan mewn cyhoeddi gwybodaeth gamarweiniol sy’n niweidio neu’n oedi’r broses honno. Mae’r Brifysgol wedi darparu digon o wybodaeth i’r undebau i alluogi cyfranogiad adeiladol o fewn ymgynghoriad ystyrlon.”