Gyda miloedd yn paratoi at deithio i Brasil i wylio Pencampwriaeth Cwpan y Byd yn yr haf, mae tafarn o Dremadog yng Ngwynedd yn gobeithio bod yn rhan o’r dathliadau yno.
Mae tafarn Y Cnu Aur, neu’r Fleece fel mae’n cael ei alw’n lleol, sydd ar y sgwâr yn y pentref ble cafodd Lawrence of Arabia ei eni, yn gobeithio ennill cystadleuaeth fydd yn gweld y dafarn yn cael ei hail-greu ar y traeth yn Rio De Janeiro.
Ar hyn o bryd mae’r Fleece yn ail yn y gystadleuaeth sy’n cael ei chynnal gan y cwmni creision McCoy’s, a fydd yn adeiladau efaill i’r dafarn fuddugol yn y ddinas yn ne America.
Bydd y dafarn fuddugol yn cael ei dewis gan banel o feirniaid enwog, sy’n cynnwys y digrifwr Al Murray, o restr fer o bump o dafarndai sy’n derbyn y mwyaf o bleidleisiau’r cyhoedd.
Mae tafarn y Bulkeley Arms yn Borth ar Ynys Môn hefyd yn y ras, ond maen nhw’n rhif 14 ar hyn o bryd.
Cyfle i fynd i Gwpan y Byd
Mae perchennog y Fleece, Stuart Hallard, nawr yn annog pobl i bleidleisio dros ei dafarn gan y bydd naw o’r rhai sy’n pleidleisio, a ffrind iddyn nhw, yn cael eu dewis ar hap gan McCoy’s i fynd i Rio a blasu diod yn y dafarn newydd.
Dywedodd Stuart Hallard wrth golwg360 : “Fe waethon ni dderbyn llythyr gan McCoy’s oedd yn sôn am y gystadleuaeth felly dyma ni’n penderfynu trio.
“Ar hyn o bryd, ni yw’r unig dafarn o Gymru yn y pump uchaf felly byddai gorffen yno pan mae’r pleidleisio yn dod i ben yn wych. Penderfyniad y beirniaid fydd hi wedyn.”
Ychwanegodd Stuart Hallard bod ei dafarn, a agorodd am y tro cyntaf yn 1806, yn haeddu ei lle oherwydd ei bod hi’n unigryw gyda llawer o hanes iddi.
Ond mae’n gobeithio y bydd McCoy’s yn darparu staff petai’r Fleece yn ennill oherwydd ei fod “eisiau mwynhau peint am unwaith”.
Bydd modd pleidleisio dros eich hoff dafarn tan hanner nos heno, gyda’r pum dafarn uchaf yn wynebu panel o feirniaid i weld pwy fydd yn ennill.
Am ragor o wybodaeth ac i bleidleisio, ewch i www.mccoys.co.uk/riolocal