Mae peilot wedi gorfod glanio ar frys ger Abertawe heddiw, wedi i’w awyren ysgafn fynd i drafferthion yn yr awyr ar ôl taro haid o adar.
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau mai tua 7yb heddiw y digwyddodd y ddamwain yn ardal Pengelli, a bod y peilot wedi cael ei orfodi i lanio ar lain o dir cyn i’r awyren droi drosodd a malu.
Fe lwyddodd y peilot i ddod allan o’r awyren, ond roedd wedi taro’i ben ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Treforys am driniaeth.